Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dychwelyd i wasanaeth arferol wedi streic y diffoddwyr tân
Postiwyd
Daeth y cyfnod o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 4 o'r gloch heddiw (25ain Medi).
Cafodd y streic ei chyhoeddi'r wythnos diwethaf ac roedd wedi ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smithei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.
"Fel y disgwylid, fe ddewisodd nifer uchel o ddiffoddwyr tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i fynd ar streic, ac o ganlyniad fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni.
"Nid oeddem yn gallu ymateb i ddigwyddiadau yn yr un modd ag arfer, ac o ganlyniad bu'n rhaid i ni ganolbwyntio ar anfon adnoddau i'r argyfyngau mwyaf difrifol.
"Fe weithiodd y trefniadau a roesom ar waith i gyflenwi gwasanaeth yn ystod y streic yn dda. Cafodd ein trefniadau parhad busnes cyfarwydd eu rhoi ar waith yn effeithlon yn syth wedi i'r streic gychwyn ac unwaith y daeth y streic i ben fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer.
"Nid oedd nifer y galwadau a dderbyniom yn wahanol i'r hyn yr ydym yn arfer ei dderbyn ganol pnawn yn ystod yr wythnos. Rydw i'n falch ein bod wedi llwyddo i gynnal y ddarpariaeth yn yr ardaloedd mwyaf poblog yng Ngogledd Cymru. Roedd yr injans wedi eu gosod mewn mannau strategol ac felly roeddem yn hyderus y gallem ymateb i ddigwyddiadau ar hyd a lled y rhanbarth.
"Cawsom ein galw i dân bwriadol, sydd yn siomedig iawn gan bod tanau o'r math yma yn draul ar ein hadnoddau.
"Hoffwn fachu ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad a hoffwn nodi proffesiynolrwydd ein staff gweithredol yn ogystal - yn naturiol, mae gan bobl deimladau cryf ar y mater ond rwyf yn falch o gael dweud eu bod wedi ymddwyn yn bwyllog drwy gydol y streic. Byddwn yn parhau i weithio'n lleol er mwyn cynnal ein perthynas ddiwydiannol gyda'r undeb a thrafodaethau gyda chynrychiolwyr o'r undeb. Rydym yn gobeithio y bydd yr FBU a'r Llywodraeth yn llwyddo i ddatrys yr anghydfod yn ddiogel ac yn dderbyniol ar gyfer y naill barti.
"Er bod y streic drosodd, nid ydym yn gwybod eto a yw diffoddwyr tân yn bwriadu cymryd rhan mewn achos arall o weithredu diwydiannol, felly rwyf am atgoffa pobl ei bod yn hynod bwysig iddynt gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd a pharhau i annog pawb i gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel;
Atal sydd orau - talwch sylw ychwanegol i ddiogelwch tân yn y cartref
- Genwch yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol - galwch 0800 169 1234 i drefnu archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim neu cysylltwch â ni drwy fynd i www.larwmmwgamddim.co.uk
- Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999
- Peidiwch byth â cheisio diffodd y tân eich hun."
Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk
Rhestr o ddigwyddiadau yr aethom atynt yn ystod y streic:
- 1 gwrthdrawiad ar y ffordd, neb yn gaeth yn y cerbyd, fe anfonwyd 1 injan i'r digwyddiad
- 1 tân mewn tŷ - anfonwyd 2 injan
- 1 teiars a oedd wedi eu rhoi ar dân yn fwriadol mewn beudy - fe anfonwyd un injan
Galwadau eraill
- 1 yn rhoi gwybod am losgi dan reolaeth
- 1 yn rhybuddio eu bod am brofi'r larwm tân
- 2 yn rhybuddio am synwyryddion diffygiol
- 1 Galwad Tân Awtomatig - cadarnhawyd nad oedd tân