Rhybudd yn dilyn tân planced drydan yn Abersoch
Postiwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhybuddio ynglŷn â pheryglon posibl blancedi trydan yn dilyn dihangfa ffodus dynes oedrannus o eiddo yn Abersoch fore heddiw (dydd Mawrth 24ain Medi).
Galwyd diffoddwyr tân o Abersoch a Phwllheli i'r eiddo am 05.28 o'r gloch ar ôl i larymau mwg rybuddio'r perchennog am y tân. Wedi iddynt gyrraedd yno, bu i griwiau dywys y ddynes 88 mlwydd oed i fan diogel ar ôl i'w blanced drydan orboethi a mynd ar dân. Cafodd driniaeth yn y fan a'r lle oherwydd ei bod wedi anadlu mwg ac aethpwyd â hi i'r ysbyty am driniaeth ragofalol. Ni ledaenodd y tân ymhellach na'r gwely.
Dywedodd Geraint Hughes o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'n bwysig iawn fod pobl sy'n berchen blancedi trydan yn eu storio'n gywir pan na chânt eu defnyddio - gall plygu'r plancedi trydan achosi difrod i'r gwifrau o fewn y blanced. Cyn i'r blancedi gael eu defnyddio yn dilyn cyfnod o storio tymhorol, dylid eu harchwilio i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n iawn.
"Dylid profi plancedi trydan bob blwyddyn gan drydanwr cymwys a'u cyfnewid os nad ydynt yn bodloni'r safon ofynnol. Rydym hefyd yn cynghori preswylwyr i beidio â defnyddio plancedi sydd dros bum mlwydd oed, a defnyddio'r dyfeisiadau yn ôl cyfarwyddyd y gwneuthurwyr yn unig. Hefyd, ni ddylid gorlwytho socedi a dylid gwirio beth yw graddfa ffiws y blanced drwy agor cas y plwg.
"Peidiwch â gadael planced drydan ymlaen drwy'r nos, oni bai ei bod yn cael ei rheoli gan thermostat ac wedi ei chynllunio ar gyfer ei gadael ymlaen. Dylai plancedi trydan gael arwydd Safon Brydeinig y Barcud arnynt, yn ogystal â symbol Bwrdd Cymeradwyo Technoleg Trydan Prydain (BEAB).
"Mae'r digwyddiad hwn yn profi pwysigrwydd larymau mwg gweithredol - bydd larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar i chi ac yn rhoi cyfle i chi fynd allan o'r eiddo yn ddianaf. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. I gofrestru am archwiliad, galwch ein rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, neu ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk."