Myfyrwyr yn cael A* mewn diogelwch tân
PostiwydYr wythnos hon fe aeth staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r ffeiriau myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Glyndŵr fel rhan o'r Ymgyrch Diogelwch Myfyrwyr blynyddol.
Eleni, yn ogystal ag ymgysylltu â myfyrwyr mewn ffeiriau rydym wedi gweithio gyda'r Prifysgolion i'w haddysgu am ddiogelwch tân a lleihau galwadau tân diangen. Bydd y Gwasanaeth yn targedu myfyrwyr a allai fod yn agored i niwed mewn lletyai sy'n cael eu rhentu'n breifat.
Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Rydym wedi cael wythnos brysur iawn yn siarad gyda'r myfyrwyr am bwysigrwydd diogelwch tân a rhannu cynghorion diogelwch gyda hwy i'w cadw'n ddiogel. Rydym hefyd wedi bod yn eu haddysgu am sut i osgoi achosi galwadau tân diangen mewn neuaddau preswyl - rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r prifysgolion ar y mater ers rhai blynyddoedd bellach ac rydym wedi gweld cynnydd sylweddol.
"At hyn, fis nesaf byddwn yn targedu myfyrwyr mewn tai rhent preifat, drwy gnocio ar ddrysau a chynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim er mwyn helpu i'w cadw mor ddiogel â phosib.
"Mae nifer o'r bobl ifanc hyn yn byw oddi cartref am y tro cyntaf ac felly mae'n ddigon posib eu bod yn agored i niwed.
"Rydym hefyd yn defnyddio ein tudalennau rhwydweithio cymdeithasol i rhannu ein negeseuon - ewch i www.facebook.com/Northwalesfireservice ac edrychwch ar y tab 'Cystadleuaeth Myfyrwyr' i gael gwybod mwy ac am gyfle i ennill Kindle, neu dilynwch ni ar Twitter @northwalesfire."