Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu pwysigrwydd larymau mwg a diogelwch tân yn dilyn tri digwyddiad difrifol mewn 24awr

Postiwyd

Y mae Swyddogion Tân yn amlygu gallu larymau mwg i achub bywydau a phwysigrwydd larymau mwg wedi i ddynes 88 mlwydd oed gael ei hachub o'i chartref ym Mae Colwyn.

Y mae'r digwyddiad hwn ymhlith tri achos o dân yng Ngogledd Cymru dros gyfnod o 24 awr.

Galwyd diffoddwyr tân o Fae Colwyn ac Abergele i Mill Drive, Bae Colwyn am  04.11 o'r gloch y bore yma, Dydd Mercher 4 Medi wedi i larymau mwg, a gafodd eu gosod gan ddiffoddwyr tân, rybuddio'r ddynes a oedd yn byw yn yr eiddo o'r tân yn yr ystafell ymolchi.  Roedd hi wedi disgyn a methu mynd allan o'r eiddo.  Fe ddefnyddiodd ei theclyn  Galw Gofal i adrodd am y tân.   Fe gysylltodd Galw Gofal â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chafodd ei hachub o'r eiddo gan ddiffoddwyr tân a ddefnyddiodd bedair set o offer anadlu ac un bibell ddŵr i ddiffodd y tân.  Cafodd ei chludo i'r ysbyty am driniaeth oherwydd ei bod wedi anadlu mwg. Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol.

Yn y cyfamser, cafodd diffoddwyr tân o Ddinbych a Rhuthun eu galw i ddigwyddiad yn Llys Gwilym, Llanrhaeadr am 12.08 o'r gloch ddoe, Medi 3. Fe dderbyniodd y ddynes a oedd yn byw yn yr eiddo losgiadau i'w dwylo a'i hwyneb ar ôl ceisio symud sosban tships a oedd ar dân.  Cafodd ei chludo i'r ysbyty ac y mae hi bellach wedi cael ei symud i Ysbyty Whiston am driniaeth.

Cafodd criwiau o Lanberis a Chaernarfon eu galw i dân mewn byngalo yng Nghoed Y Ddôl, Llanberis am 20.02 o'r gloch.  Roedd y tân wedi ei achosi gan fwyd a oedd wedi cael ei adael yn coginio heb neb i gadw llygaid arno.  Doedd neb yn y byngalo ar adeg y tân, ond fe achoswyd difrod tân 40% a difrod mwg 100% i'r eiddo.

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref os nad oes gennych chi larymau mwg gweithredol.  Pan fydd tân yn cynnau, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i fynd allan.  Gall larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Gallwch brynu larwm mwg cyffredin am bris paced o sigaréts.  Gwell fyth yw'r larymau hynny sydd gan fatri hir oes neu rhai sydd wedi eu cysylltu i'r prif gyflenwad trydan.

"Bydd cynllun dianc o dân cyfarwydd yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddwch yn mynd allan o dân yn fyw pe byddai'r gwaethaf yn digwydd.   Hefyd, ceisiwch gael arferion gyda'r nos - diffoddwch yr holl eitemau trydanol a chaewch bob drws i leihau lledaeniad y tân drwy'ch cartref ac amddiffyn eich llwybr dianc mewn achos o dân.

"Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno a pheidiwch â cheisio taclo'r tân eich hun. Yn anffodus, yn achos y tân yn Llanrhaeadr fe geisiodd y ddynes symud y sosban tsips a dyma sut y cafodd hi ei hanafu.  Peidiwch byth â cheisio symud eitemau sydd ar dân, megis sosbenni tsips.

"Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle  i gael gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim yn eich cartref, Cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref.  I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges."

Dyma 10 cyngor i'ch diogelu rhag tân yn y cartref

Gosodwch larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd

  1. Lluniwch gynllun dianc o dân er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod sut i fynd allan mewn achos o dân
  2. Byddwch yn ofalus wrth goginio gydag olew poeth a meddyliwch am ddefnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres
  3. Peidiwch byth â gadel canhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt.
  4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd eich sigaréts yn llwyr ac yn cael gwared arnynt yn ofalus
  5. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely
  6. Cadwch fatsis a thanwyr ymhell o gyrraedd plant
  7. Cadwch ddillad ymhell o wresogyddion a thanau
  8. Cymrwch bwyll yn y gegin!
  9. Cymrwch bwyll arbennig os ydych chi wedi blino neu os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen