Dychwelyd i wasanaeth arferol wedi i ddiffoddwyr tân fynd ar streic Nos Galan
PostiwydDaeth y cyfnod o weithredu diwydiannol chwech awr gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am hanner awr wedi hanner nos.
Dyma oedd y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.
Dywedodd y Prif Swyddog TânSimon Smithei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.
"Fel y disgwylid, fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni. Fodd bynnag, fe weithiodd ein trefniadau rheoli parhad busnes yn effeithiol ac wedi'r streic fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer yn gyflym a diogel.
"Ni chawsom ein galw i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol chwe awr - a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch."
"Er bod y streic yma drosodd, hoffwn atgoffa pobl ei bod yn hynod bwysig iddynt gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd - bydd diffoddwyr tan yn mynd ar streic eto Ddydd Gwener 3ydd Ionawr rhwng 630am a 830am."
"Dymunaf Flwyddyn Newydd Dda a diogel i bawb."
Y mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk