Rhybudd o lifogydd difrifol ar gyfer y Bermo
PostiwydMae ymateb aml-asiantaeth yn cael ei baratoi o ganlyniad i rybudd difrifol o lifogydd yng Ngogledd Cymru ddydd Gwener.
Mae rhybudd llifogydd difrifol wedi'i roi ar gyfer y Bermo a hynny rhwng 7.30am a 11.30 am ac mae pobl sy'n byw yn yr ardal yn cael eu hannog i gymryd camau er mwyn sicrhau eu diogelwch eu hunain a'u heiddo.
Meddai'r Prif Uwcharolygydd Jeremy Vaughan o Heddlu Gogledd Cymru, sy'n cydlynu'r ymateb: "Bydd rhybuddion difrifol o lifogydd ond yn cael eu gwneud pan fo gwir risg i fywyd ac eiddo ac mae angen cymryd y rhybudd hwn o ddifrif. Mae angen i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio arnynt wneud trefniadau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel."
Bydd Cyngor Gwynedd yn agor canolfan orffwys yn y Bermo. Anogir pobl sy'n gadael eu heiddo i aros gyda pherthnasau a ffrindiau i hysbysu Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101.
Mae presenoldeb uwch o Heddlu yn Y Bermo ar hyn o bryd.
Meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn rhybuddio pobl i osgoi mynd at y môr o ganlyniad i'r risg o gael eich taro neu eich tynnu i'r môr gan y tonnau neu gael eich taro gan eitemau sy'n dod o'r môr. Gall dŵr llifogydd fod yn hynod o beryglus ac ni ddylai pobl geisio cerdded neu yrru drwyddo oni bai eu bod yn cael cyfarwyddyd gan y Gwasanaethau Brys.
Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy fynd i http://www.environment-agency.gov.uk/