Tân yn Llanfachraeth
Postiwyd
Mae bwthyn yn Llanfachraeth, ger Caergybi wedi cael ei ddinistrio gan dân.
Cafodd criwiau eu galw i'r eiddo am 09.24 o'r gloch y bore yma, Dydd Llun 6ed Ionawr.
Credir bod y tân wedi cychwyn yn y to a'i fod wedi lledaenu drwy'r eiddo wrth i'r fflamau gael eu lledaenu gan y gwynt. Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bibellau dŵr ac offer anadlu i ddelio gyda'r tân.
Llwyddodd perchennog y tŷ i ddianc yn ddianaf ar ôl glywed sŵn uchel ac yr oedd wedi mynd allan o'r eiddo cyn galw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Y mae archwiliadau cynnar yn dangos bod y tân wedi ei achosi gan fellten, ond mae archwiliad llawn bellach ar y gweill.