Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Gwynedd
Postiwyd
Fe gymrodd plant lleol ran yng nghwrs Ffenics arloesol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'r wythnos diwethaf.
Mae cwrs Y Ffenics wedi ei ddylunio'n arbennig i helpu pobl ifanc ailgyfeirio eu bywydau. Drwy gymryd mantais o'u brwdfrydedd i gwblhau gweithgareddau gwerth chweil a chynhyrchiol y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddod yn rhan o'r gymuned ynghyd â'u cyfoedion.
Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Dân Llanberis.
Meddai Eryl Owen, Cydlynydd Y Ffenics: "Rwyf yn falch o weld fod y cyrsiau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus unwaith yn rhagor.
"Nod y cwrs yw ysgogi'r bobl ifanc a'u gwneud i deimlo'n fwy positif amdanynt eu hunain, a fydd, o ganlyniad, yn eu gwneud yn ddinasyddion gwell .
"Rydym yn mawr obeithio bod y bobl ifanc wedi elwa o fynychu cwrs y Ffenics, ac y byddant yn parhau i elwa yn y dyfodol."