Cadwch yn ddiogel yn ystod noson tân gwyllt
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar i bobl ifanc beidio â chwarae gyda thân gwyllt a chynnau coelcerthi yn ystod hanner tymor.
Gydag wythnos i fynd tan noson tân gwyllt mae'r gwasanaeth tân ac achub yn erfyn ar i bobl y Gogledd fod yn wyliadwrus o dân gwyllt a mynd i nosweithiau tân gwyllt sydd wedi cael eu trefnu'n lleol.
Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Tân Cymunedol: "Y mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom i gymryd sylw o ddiogelwch ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Ni allwn bwysleisio digon mai'r ffordd orau i leihau nifer yr anafiadau yn ystod noson tân gwyllt drwy fynd i nosweithiau cymunedol. Y mae noson tân gwyllt yn achosi gofid i bobl hyn ac anifeiliaid anwes, felly drwy fynd i noson gymunedol byddwch yn helpu i leddfu'r gofid hwn.
"Os oes yn rhaid i chwi gynnau tân gwyllt eich hun, dilynwch y rheolau tân gwyllt.
Y Rheolau Tân Gwyllt
- Prynwch dân gwyllt gyda'r marc diogelu BS 7114 arnynt.
- Peidiwch ag yfed alcohol os ydych yn cynnau tân gwyllt.
- Cadwch dân gwyllt mewn bocs gyda chaead arno.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau unigol ar gyfer y tân gwyllt.
- Taniwch hwy hyd braich, a defnyddiwch dapr.
- Safwch yn ddigon pell yn ôl.
- Peidiwch â mynd yn ôl at dân gwyllt sydd wedi ei gynnau. Hyd yn oes os nad ydyw wedi cynnau'n iawn mae dal yn bosib iddo ffrwydro.
- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced na'u taflyd.
- Cadwch lygaid ar blant pan fydd tân gwyllt yn cael eu tanio.
- Taniwch ffyn gwreichion un ar y tro a gwisgwch fenig.
- Peidiwch byth â thoi ffyn gwreichion i blant dan bump.
-Cadwch anifeiliaid anwes yn y ty.
"Os ydych yn bwriadu cynnau coelcerth, rhowch wybod i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drwy alw 01931 522 226."
Meddai'r Arolygydd Julie Sheard: "Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl yn mwynhau'r adeg yma o'r flwyddyn yn gall ac nid ydym yn bwriadu difetha'r hwyl i bawb, ond mae yna rai sydd yn defnyddio Noson Tân Gwyllt fel esgus i droseddu ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
"Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill i gadw pobl yn ddiogel ac i wneud yn siwr nad ydyw'r noson yn cael ei difetha gan y lleiafrif. Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, rydym yn annog pawb i fynd i nosweithiau tân gwyllt sydd wedi eu trefnu'n lleol. Bydd y nosweithiau hyn yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol cyn Tachwedd y 5ed."
Nosweithiau Tân Gwyllt a Choelcerthi Cymunedol yn lleol i chi:
Yr Wyddgrug - 5ed Tachwedd 6.45 pm Clwb Pêl-droed yr Wyddgrug
Bae Colwyn -5ed Tachwedd 7.17pm ym Mharc Eirias
Dinbych - Safle Castell Dinbych5ed Tachwedd
Aberdyfi - 1af Tachwedd 6.30pm yn yr Orsaf Dân
Abermaw- 8fed Tachwedd 6.30pm
Glannau Dyfrdwy - 5ed Tachwedd 7.30pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Y Rhyl- 5ed Tachwedd 7.30pm Y Cae Sioe, Ffordd Rhuddlan, Y Rhyl
Abergele - 1af Tachwedd 6.30pm i blant, a'r brif arddangosfa am 7.30pm yn Nhraeth Pensarn
Os gwyddoch am unrhyw un sydd yn camddefnyddio tân gwyllt er mwyn difrodi eiddo neu anafu rhywun, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, Neu 999 os yw'n fater brys.