Wendy'n bagio gwerth £100 o dalebau yng nghystadleuaeth coginio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru!
Postiwyd
Roedd Wendy Murray wrth ei bodd ei bod wedi ennill talebau bwyd gwerth £100 wedi i'w henw gael ei ddewis ar hap wedi'n cystadleuaeth diogelwch coginio 'Peidiwch â'n gwahodd i ginio!" yn ddiweddar. Fel rhan o'r ymgyrch fe ymwelodd staff ag archfarchnadoedd ar hyd a lled Sir Ddinbych i gwblhau cwisiau arbennig gyda siopwyr - roedd pawb a gymerodd ran yn cael amserydd cegin am ddim.
Y mae modd i drigolion gymryd rhan yn y cwis ar lein drwy fynd i www.facebook.com/Northwalesfireservice am gyfle i ennill gwerth £100 o dalebau. Bydd staff yn ymweld ag archfarchnadoedd yn Ynys Môn dros y ddau fis nesaf.