Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub yn annog defnyddwyr canhwyllau i gadw'n ddiogel yn ystod wythnos diogelwch canhwyllau

Postiwyd

Gwasanaeth Tân ac Achub yn annog defnyddwyr canhwyllau i gadw'n ddiogel yn ystod wythnos diogelwch canhwyllau

Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Diogelwch Canhwyllau yw wythnos hon ac fe annogir pobl yng Ngogledd Cymru i wrando ar air o gyngor.

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Mae pobl yn dueddol o  ddefnyddio canhwyllau yn amlach dros fisoedd y gaeaf ac yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.  Gellir defnyddio canhwyllau i ddarparu golau, gwres neu i addurno'r cartref, ond mae'n bwysig bod pobl yn ymwybodol o'r peryglon sydd ynghlwm â defnyddio canhwyllau.

"Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau batri, sydd ar gael i'w prynu yn rhad iawn ac sydd yn darparu golau batri yn hytrach na fflam agored.  Mae'r canhwyllau electronig yma'r un mor effeithiol â chanhwyllau go iawn ond maent yn llawer mwy diogel."

Mae'n hynod bwysig bod trigolion yn cadw'r canlynol mewn cof pan fyddant yn defnyddio canhwyllau:

- Peidiwch byth â gadael canhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt a chofiwch eu diffodd cyn i chi fynd i'r gwely

- Gwnewch yn siwr bod y gannwyll yn sefyll yn syth a'i bod wedi ei gosod yn gadarn rhag ofn iddi ddisgyn drosodd - y mae canhwyllau persawr yn llosgi'n hylif felly llosgwch hwy mewn daliwr canhwyllau gwydr neu fetel a all wrthsefyll y gwres a'r  hylif

- Gosodwch eich canhwyllau ar arwynebedd a all wrthsefyll gwres

- Cadwch ganhwyllau ymhell o ddrafftiau, llenni a golau haul uniongyrchol.

- Sicrhewch fod o leiaf 10 cm rhwng pob cannwyll a pheidiwch byth â'u gosod o dan  silffoedd neu arwynebeddau

- Diffoddwch ganhwyllau cyn iddynt losgi'r daliwr

- Llosgwch ganhwyllau ymhell o gyrraedd plant

- Diffoddwch ganhwyllau cyn i chi eu symud

- Gosodwch larwm mwg gweithredol yn eich cartref ac ystyriwch osod larymau mwg yn yr ystafelloedd lle'r ydych yn llosgi canhwyllau yn rheolaidd

- Peidiwch â gwyro dros ganhwyllau

- Peidiwch byth â llosgi canhwyllau sydd dim ond i fod i gael eu llosgi y tu allan yn y ty

- Peidiwch â chwarae gyda chanhwyllau drwy roi dim byd yn y gwêr poeth.

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim a chyngor ar sut i gadw'ch cartref yn ddiogel rhag tân, galwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhad ac am ddim 24 awr o'r dydd ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siwr eich bod yn dechrau' neges gyda HFSC.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen