Teulu o bump yn cael dihangfa lwcus yn dilyn tân yn Garden City
Postiwyd
Y mae diffoddwyr tân yn rhybuddio unwaith eto am bwysigrwydd cymryd pwyll gydag eitemau trydanol wedi i deulu o bump gael dihangfa lwcus o dân yn eu cartref yn Sir y Fflint.
Daw'r rhybudd ychydig dros fis wedi i ddau ddyn gael eu lladd yn dilyn tân yn Llanrwst, a gychwynnodd mewn peiriant sychu dillad yn ôl pob tebyg, ac wythnos wedi i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gefnogi'r ymgyrch genedlaethol Wythnos Diogelwch Trydan i rybuddio trigolion ynglyn â pheryglon tanau trydanol, gan mai dyma un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref yn y wlad hon.
Fe anfonwyd dau beiriant tân o Lannau Dyfrdwy i'r digwyddiad ar Sealand Avenue yn Garden City am 00.43o'r gloch yn ystod oriau mân y bore Ddydd Mercher (19eg Tachwedd). Fe ddefnyddiodd y criwiau bibell dro a phedwar set o offer anadlu i ddelio gyda'r tân.
Cafodd dynes 43 mlwydd oed a'i phlant - ei merch 16oed,ei meibion 12 a 10 oed a'i mab 6 mis oes - eu cludo i'r ysbyty am driniaeth ragofalol oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol mewn peiriant golchi llestri ac roedd y difrod wedi ei gyfyngu i'r gegin.
Meddai Chris Nott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Roedd y teulu yma'n lwcus iawn. Oherwydd bod y larwm mwg yn yr eiddo wedi seinio rhybudd llwyddodd y preswylwyr i fynd allan yn ddianaf ar y cyfan a llwyddodd y diffoddwyr tân i gyrraedd yn brydlon fel na achosodd y tân ddifrod pellach i weddill yr adeilad.
"Mae tanau trydanol yn creu risg gwirioneddol i berchnogion tai, ac yn aml iawn maent yn achosi difrod sylweddol i eiddo ac weithiau gallant arwain at ganlyniadau trasig iawn, fel yn achos y tân yn Llanrwst yn ddiweddar.
"Mae'r rhan fwyaf o danau trydanol yn digwydd oherwydd nad ydy'r eitemau trydanol yn cael eu defnyddio yn y modd cywir. Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio cyfarpar trydan yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'ch bod yn archwilio eitemau trydan a lidiau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio. Mae cymaint o drigolion yn defnyddio eitemau sydd yn hen neu'n beryglus ac yn gorlwytho socedi, sydd yn creu risg gwirioneddol o dân angheuol.
"Cofiwch ei bod hi'n bwysig i chi ddiffodd cyfarpar trydan cyn mynd i'r gwely - os bydd tân yn cynnau ynghanol y nos mae'n bosib na fyddwch byth yn deffro.
"Fe all tanau trydanol ddigwydd i unrhyw un, yn unrhyw le felly ein cyngor yw byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel - ceir cyngor ar ein gwefan ar sut i osgoi'r peryglon.
"Gosod larymau mwg yw'r unig ffordd o amddiffyn eich cartref rhag tân - ac eto mae 20% o'r tanau yr ydym ni'n cael ein galw atynt yn digwydd mewn cartrefi heb larymau mwg gweithredol o gwbl."
Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, lle byddwn yn gosod larymau mwg newydd am ddim, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr 0800 1691234, neu ewch i www.gwastan-gogymru.org.uk