Cofiwch y Nadolig am y rhesymau cywir -Cadwch yn ddiogel y Nadolig hwn
Postiwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i drigolion ddilyn ychydig o gynghorion syml er mwyn cadw pawb yn ddiogel yn dros yr wyl.
Mae'r gwasanaeth tân ac achub yn cael ei alw i bron i dair gwaith yn fwy o danau yn y cartref dros gyfnod y Nadolig.
Ym mis Rhagfyr 2013, roedd 35% o'r holl danau yn y cartref y cawsom ein galw atynt wedi eu hachosi gan gyfarpar coginio, ac roedd y mwyafrif helaeth o'r rhain oherwydd bod pobl wedi gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno- roedd y cyfarpar yn cynnwys pentanau a chylchoedd trydan, poptai a microdonau.
Roedd 40% o danau yn y cartref wedi eu hachosi gan offer trydanol yn cynnwys offer wedi eu gorlwytho neu eu defnyddio yn anghywir.
Roedd bron i 20% o danau yn y cartref wedi eu hachosi gan ganhwyllau neu ganhwyllau te a defnyddiau ysmygu a oedd heb eu gwaredu'n iawn.
Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Yn llawer rhy aml rydym wedi bod yn dyst i'r dinistr y gall tanau yn y cartref eu hachosi. Mae'n beth ofnadwy i ddigwydd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn ond mae ei effaith hyd yn oed yn waeth dros gyfnod y Nadolig. Mae'r cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn newydd yn gyfnod i ymlacio a dathlu yng nghwmni teulu a ffrindiau - ond mae'n bwysig eich bod yn cymryd pwyll arbennig rhag i dân ddinistrio'ch cartref, anrhegion a phethau gwerthfawr, eich anafu'n ddifrifol neu hyd yn oed eich lladd chi a'ch anwyliaid."
" Yn aml iawn mae plant yn breuddwydio am sled goch a fydd yn dod ag anrhegion iddynt hwy, ceisiwch osgoi'r hunllef o injan dân goch yn dod i ddelio gyda thân yn eich cartref. "
Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl gadw'n ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân drwy gadw at y deuddeng cyngor canlynol dros yr wyl:
- Gwnewch yn siwr bod goleuadau eich coeden Nadolig yn cydymffurfio â'r Safon Brydeinig. Defnyddiwch ddyfais cerrynt gweddillion (RCD) ar gyfer offer tu allan (dyfais sy'n gallu arbed bywydau drwy ddiffodd y pwer ar unwaith).
- Peidiwch byth â gosod canhwyllau ar eich coeden Nadolig nac ar ddodrefn. Peidiwch â'u gadael yn llosgi heb neb gyda hwy.
- Gwnewch yn siwr fod eich teulu ac ymwelwyr sydd yn aros dros yr wyl yn gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng. Cofiwch ymarfer eich cynllun dianc.
- Gall addurniadau losgi'n hawdd - Peidiwch â'u clymu wrth oleuadau neu wresogyddion.
- Diffoddwch gyfarpar trydanol pan na fyddwch yn eu defnyddio, oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu gadael ymlaen.
- Cymrwch bwyll gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch hwy a thynnwch y plwg cyn i chi fynd i'r gwely. Dros y Nadolig byddwn yn defnyddio llawer mwy o offer trydanol megis goleuadau ac addurniadau yn ogystal â gemau ayb. Peidiwch â gorlwytho socedau a phlygiau - defnyddiwch lidiau diogelwch gyda'r ffiwsiau cywir. Cyfeiriwch at ein cyfrifiannell ampau www.nwales-fireserfireservice / keeping you safe / looking after the electrics or follow this link /looking-after-the-electrics?lang=cy
- Mae'r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin - peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno. Dathlwch y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae'r perygl o ddamweiniau, yn enwedig yn y gegin, yn fwy ar ôl yfed alcohol.
- Os ydych yn bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch hwy mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi ei gynnau a chadwch fwced o ddwr gerllaw.
- Gwnewch yn siwr fod sigaréts wedi cael eu diffodd yn llwyr.
- Profwch fatri eich larwm mwg unwaith yr wythnos a defnyddiwch y Nadolig fel cyfnod i'ch atgoffa i'w lanhau a chael gwared ar lwch.
- Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis ymhell o gyrraedd plant.
- Cymrwch amser i ymweld â pherthnasau a chymdogion hyn y Nadolig hwn - gwnewch yn siwr eu bod yn ddiogel rhag tân.
Fe ychwanegodd Gary: "Mae pawb yn hoffi mwynhau ei hun dros y gwyliau, ond rydym yn gofyn i bobl gadw diogelwch tân mewn cof wrth iddynt ddathlu. Hoffwn atgoffa trigolion am beryglon coginio ar ôl bod yn yfed alcohol - dydy yfed a choginio ddim yn gyfuniad doeth.
"Mae'n rhaid i nid ystyried y canlyniadau a meddwl yn ddiogel er mwyn cadw'n ddiogel."
Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn eich cartref yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim.
I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.
Ewch i'n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Nadolig ac i gael gwybod mwy am sut i gadw'n ddiogel dros y Nadolig www.facebook.com/northwalesfireservice