Rhybuddio am beryglon sosbenni sglodion yn dilyn tân mewn neuadd breswyl
PostiwydHeddiw mae diffoddwyr tân wedi cyhoeddi rhybudd ynglŷn â pheryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno wedi i sosban sglodion fynd ar dân mewn neuadd breswyl - a hynny wythnos ar ôl i ni annog pobl i daflyd eu sosbenni sglodion fel rhan o Wythnos Genedlaethol Sglodion (17eg-23ain Chwefror).
Cafodd peiriannau tân o Fangor a Phorthaethwy eu hanfon i Neuaddau Glaslyn, Prifysgol Bangor am 20.01 o'r gloch Ddydd Iau 27ain Chwefror i ddelio gyda thân mewn cegin. Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddwy set o offer anadlu i ddelio gyda'r digwyddiad.
Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Yn ffodus iawn fe seiniodd y larymau mwg yn y neuadd breswyl felly llwyddodd y myfyrwyr i fynd allan o'r adeilad yn ddiogel - fel arall gallem fod wedi bod yn delio gyda digwyddiad llawer mwy difrifol.
"Roedd y tân wedi ei gyfyngu i'r gegin ond y mae wedi digwydd wythnos ar ôl i ni gyhoeddi rhybudd am beryglon sosbenni sglodion fel rhan o Wythnos Genedlaethol Sglodion.
"Gall gadael sosbenni sglodion ymlaen, hyd yn oed am gyfnod byr, gael effaith trychinebus gan y gall yr olew yn gorboethi ac yn mynd ar dân - gall tân gynnau mewn ychydig eiliadau os bydd hyd yn oed y peth lleiaf yn mynd â'ch sylw.
"Y mae sglodion parod y gellir eu coginio yn y popty yn opsiwn llawr mwy diogel yn ogystal ag iachach, ond os byddwch yn dewis eu ffrio mewn saim dwfn peidiwch â gadael y sosban ar yr hob heb neb i gadw llygaid arni. Os aiff eich sosban sglodion ar dân, peidiwch â thaflu dŵr drosti. Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.
"Neu, gwell fyth fyddai gwneud i ffwrdd â'ch heb sosban yn gyfan gwbl a defnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres yn ei lle."
"Gall tân bychan ddatblygu'n dân difrifol ac angheuol mewn ychydig eiliadau. Os ydych yn cysgu ar adeg y tân yna rydych mewn trwbl - byddwch yn cael eich taro'n anymwybodol ar ôl anadlu dim ond ychydig o'r mwg."
Yn 2007, bu farw Sean Bowers, 24, o Benyffordd ac Andrew Roberts, 39, o Ruthun yn dilyn tanau yn y cartref - roedd y tanau wedi eu hachosi gan sosbenni sglodion.
Os ydych yn dewis ffrio eich sglodion mewn saim dwfn, cofiwch ddilyn y cynghorion canlynol i leihau'r perygl o dân;
• Peidiwch â rhoi gormod o olew yn y sosban - peidiwch byth â'i llenwi fwy na thraean
• Gofalwch na fydd yn gorboethi - gall olew poeth fynd ar dân yn hawdd iawn
• Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres, a fydd yn sicrhau na fydd yr olew yn mynd yn rhy boeth
• Peidiwch byth â thaflu dŵr ar sosban sglodion
• Ar lwgu ar ôl noson allan? Peidiwch â choginio ar ôl yfed alcohol
• Gwnewch yn siŵr bod gennych lwybr dianc rhag ofn y bydd tân
• Peidiwch â pheryglu'ch hun drwy geisio taclo'r tân eich hun. Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999
• Gosodwch larwm mwg yn eich cartref a phrofwch y larwm yn rheolaidd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, rhannu cynghorion diogelwch tân gyda chi, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.
I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein llinell rhadffôn ddwyieithog sydd ar agor 24 awr o'r dydd ar 0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk