Tân mewn ysgol ym Mangor
Postiwyd
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i Ysgol Ein Harglwyddes ym Mangor neithiwr i ddelio gyda thân mewn ystafell ddosbarth mewn adeilad ar wahân.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu rhybuddio am y digwyddiad yn yr ysgol ar Ffordd Caernarfon am 7.29pm neithiwr (Dydd Gwener, Chwefror 28).
Fe anfonwyd dau beiriant (un o Fangor a'r llall o Borthaethwy) i ddelio gyda'r tân.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r hyn achosodd y tân ond mae ymchwiliad ar y gweill.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.