Rhybuddio am danau sbwriel ar ôl cludo dau ddyn o Brestatyn i’r ysbyty
PostiwydMae Swyddogion Tân heddiw'n rhybuddio am beryglon llosgi sbwriel neu wastraff garddwedi i ddau ddyn o Brestatyn gael eu hanafu a'u cludo i'r ysbyty.
Cafodd criwiau eu galw i'r digwyddiad am 20.17 o'r gloch Ddydd Sul 9fed Mawrth i eiddo ym Marc Cemlyn, Prestatyn ar ôl i'r dynion gael eu hanafu wrth losgi sbwriel mewn cynhwysydd.
Fe ddioddefodd y ddau ddyn 22 a 23 mlwydd oed losgiadau i'w hwynebau, i lawr i ran isaf eu breichiau ac fe ddioddefodd un ohonynt losgiadau i ran uchaf ei goesau yn ogystal. Cafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty am driniaeth. Ni chredir bod eu bywydau yn y fantol o ganlyniad i'w hanafiadau ac mae'r ddau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty'r bore yma (Dydd Llun 10fed Mawrth).
Meddai Dave Roberts, Rheolwr Partneriaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Mae'r digwyddiad yn amlygu'r peryglon posib wrth losgi sbwriel neu wastraff gardd - yn ogystal â rhoi eich bywyd yn y fantol, gallwch hefyd beryglu bywydau pobl eraill ac eiddo yn y gymuned.
"Mae defnyddio catalydd i danio neu gadw tân ynghyn yn beryglus iawn fel y gwelsom yn yr achos hwn pan fflachiodd y tân yn ôl yn gyflym - gall catalyddion achosi i danau gynhyrchu gwres yn gyflym iawn, yn ogystal â chyflymu lledaeniad y tân a chynyddu'r risg o gael eich anafu.
"Gall tywydd sych hefyd gynyddu'r peryglon gan achosi i danau bychan fynd allan o realaeth yn gyflym iawn. Gall hyn achosi dirfod sylweddol a pheryglu bywydau gan na fyddwn ni ar gael i ymateb i ddigwyddiadau eraill oherwydd bod ein hadnoddau tân ac achub prin yn cael eu defnyddio i ddiffodd y math yma o danau.
"Gallwch gael gwared ar sbwriel neu wastraff gardd drwy ei ailgylchu neu ei gompostio. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybod mwy am sut i gael gwared ar wastraff gardd a sbwriel ac ailgylchu yn eich ardal chi."