Rhybuddio am danau trydanol yn dilyn tân mewn fflat ym Mhensarn
PostiwydMae Swyddogion tân yn rhybuddio trigolion am beryglon tanau trydanol yn dilyn tân mewn fflat ym Mhensarn.
Cafodd criwiau o Fae Colwyn a'r Rhyl eu galw i fflatiau ar Marine Road, Pensarn am 14.57 o'r gloch ddoe, Mawrth 18 wedi i larwm mwg seinio rhybudd. Bu'n rhaid i'r preswylwyr adael yr adeilad a chanfuwyd bod tân mewn fflat ar y pedwerydd llawr.
Fe ddefnyddiodd ddiffoddwyr tân wyth set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân. Fe achosodd y tân ddifrod mwg, gwres a thân difrifol yn yr ystafell fyw lle'r oedd y tân wedi cynnau a difrod mwg a dŵr i nifer o fflatiau eraill.
Y mae canfyddiadau cynnar yr ymchwiliad i achos y tân yn awgrymu bod y tân wedi ei achosi oherwydd nam trydanol.
Meddai Richard Everall o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Wrth lwc fe gafodd preswylwyr y fflatiau rybudd cynnar gan y larymau mwg a llwyddodd pawb i fynd allan yn ddiogel - mae'r digwyddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol unwaith yn rhagor.
"Rydym yn cael ein galw i oddeutu 470 o danau damweiniol y flwyddyn ac y mae trydan neu eitemau trydanol yn gyfrifol am oddeutu 300 o'r tanau hyn.
"Y mae bron i 90 o'r tanau hyn yn cael eu hachosi oherwydd namau trydanol - ond mae'r mwyafrif yn cael eu hachosi oherwydd bod pobl yn camddefnyddio eitemau trydan.
"Mae'n bwysig bod pobl yn defnyddio'r eitemau hyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'u bod yn archwilio eu heitemau trydan a lidiau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio. Y mae cymaint o drigolion yn defnyddio hen eitemau peryglus neu'n gorlwytho socedi, sydd yn golygu bod mwy o berygl iddynt ddioddef tân yn y cartref.
"Pam na rowch chi gynnig ar ein cyfrifiannell ampau ar ein gwefan neu'n tudalen Facebook-www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.facebook.com/Northwalesfireservice.
- fe fydd yn dweud wrthych os ydych yn gorlwytho socedi a'ch helpu i gadw'n ddiogel rhag tân trydanol."
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diolwch tân am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yn y Gogledd.
I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk