Dynes yn marw yn dilyn tân mewn eiddo ym Mhenrhyndeudraeth
PostiwydMae dynes wedi marw yn dilyn tân ym Mhenrhyndeudraeth.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo ar Stryd y Castell am 22.25 o'r gloch Ddydd Iau 20fed Mawrth.
Cafodd criwiau o Borthmadog, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli a Harlech eu hanon i'r digwyddiad ac ar ôl cyrraedd daethant wyneb yn wyneb â thân a oedd wedi datblygu'n sylweddol mewn fflat uwchben y fferyllfa.
Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddelio gyda'r tân.
Daeth diffoddwyr tân o hyd i ddynes yn ei 80au a chafodd driniaeth yn y fan a'r lle gan barafeddygon, ond bu farw'n ddiweddarach.
Llwyddodd dyn yn ei 80au i ddod allan o'r eiddo cyn i'r diffoddwyr tân gyrraedd.
Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.
Y mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cau'r A487 o ganlyniad i'r digwyddiad ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio yn yr ardal.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.