Gair i gall am coginio crempogau gan eich diffoddwyr tân lleol
PostiwydYn draddodiadol, roedd Dydd Mawrth Ynyd yn nodi cychwyn y Grawys lle byddai cannoedd o bobl ar hyd a lled y wlad yn coginio crempogau cyn ymprydio am 40 diwrnod.
Os ydych chi'n cael eich temtio gyda chrempogen flasus, â lemwn a siwgr arni, mae'n bosib na fyddwch yn poeni rhyw lawr am ddiogelwch tân! Fodd bynnag, gall tanau saim a sosbenni sglodion fod yn drychinebus, ac y mae nifer uchel o'r tanau hyn yn arwain at anafiadau.
Meddai Terry Williams, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Mae coginio crempogau yn llawer o hwyl i'r teulu cyfan ac maent yn flasus iawn. Fodd bynnag, mae mwyafrif y tnanau damweiniol sy'n digwydd yn y cartref yn cychwyn yn y gegin, felly cymrwch ofal, yn enwedig os ydych yn coginio gydag olew poeth."
Mae Dave yn cynnig y cynghorion diogelwch canlynol -
Wrth ddefnyddio padell ffrio neu goginio gydag olew poeth:
- Peidiwch byth â gadael y badell heb neb i gadw llygaid arni os yw'r gwres ymlaen
- Peidiwch BYTH â symud y badell os ydy hi ar dân!
Os digwydd i'r badell fynd ar dân:
- Peidiwch â pheryglu'ch hun. Diffoddwch y gwres os yw'n ddiogel i chi wneud hynny. Peidiwch byth â thaflu dŵr arni.
- Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun.
- EWCH ALLAN, ARHOSWCH ALLAN, GALWCH 999.
"Ar ôl i chi orffen coginio, gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd yr holl gyfarpar a bod yr ardal goginio yn glir," ychwanega Dave.
Gall larwm mwg gweithredol gynyddu'r tebygolrwydd y byddwch yn dianc yn ddianaf. Lluniwch gynllun a chadwch ato - byddwch yn gyfarwydd â'ch llwybrau dianc ac i ble y byddech yn mynd petai tân.
Cadwch yn ddiogel a gwnewch yn siŵr bod eich larwm yn gweithio'n iawn;
- Profwch eich larymau mwg unwaith yr wythnos
- Newidiwch y batri bob blwyddyn (oni bai bod gan y batri oes 10 mlynedd)
- Glanhewch y larwm o leiaf ddwywaith y flwyddyn, gan ddefnyddio sugnwr llwch i lanhau'r tu mewn.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth ar gael i bawb sydd yn byw yn y Gogledd.
I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.