Tân mewn adeilad ailgylchu yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
Postiwyd
Mae diffoddwyr tân wrthi'n delio gyda thân mewn adeilad ailgylchu ym Mharc Diwydiannol Wrecsam, Lôn Bryn, Wrecsam. Derbyniwyd yr alwad am 11.56 o'r gloch heddiw, Dydd Mawrth Ebrill 15.
Mae tri chriw o Wrecsam, a chriw o Fwcle, Glannau Dyfrdwy a Johnstown yn bresennol ynghyd â'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl.
Mae'r diffoddwyr yn defnyddio offer anadlu, pibellau tro a phibellau dŵr i geisio diffodd y tân.