Tân ym Maes Glas yn annog apêl i roi terfyn ar danau bwriadol
Postiwyd
Mae uwch swyddog tân yn apelio ar drigolion i adrodd am bobl sydd yn cynnau tanau'n fwriadol a helpi i atal tanau bwriadol wedi i griwiau fod wrthi am oriau yn ceisio diffodd tân ym Maes Glas.
Cafodd criwiau o Dreffynnon, y Fflint a Glannau Dyfrdwy eu galw i dân mewn tri thŷ pâr gwag a oedd wrthi'n cael eu codi ar Ffordd Maes Glas, Maes Glas, Sir y Fflint am 05:19 o'r gloch y bore yma.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bibellau olwyn, prif bibellau ac offer anadlu i ddiffodd y tân. Mae criwiau o Dreffynnon yn dal yn y fan a'r lle yn tampio'r safle.
Cafodd un o'r tai ei ddinistrio'n llwyr gan y tân ac fe achoswyd difrod gwres difrifol yn yr ail dŷ. Ni chafodd y trydydd tŷ ei effeithio gan y tân.
Credir bod y tân wedi ei gynnau'n fwriadol.
Meddai Paul Scott o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae tanau bwriadol yn draul ar ein hadnoddai - pan fydd criwiau'n cael eu galw i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol megis tanau yn y cartref neu wrthdrawiadau ffyrdd, nid ydynt yn cael eu galw yn ôl o danau bwriadol, a bydd adnoddau o'r orsaf gyfagos yn cael ei anfon. Yn aml iawn mae hyn yn golygu oedi a all arwain at farwolaethau.
"Rydym yn dibynnu ar rieni ac aelodau'r cyhoedd i weithio gyda ni er mwyn pwysleisio'r negeseuon ynglŷn â chanlyniadau cynnau tanau yn fwriadol - rydym felly'n erfyn ar y gymuned i'n helpu i wneud yn siŵr bod cyn lleied â phosib o danau bwriadol yn digwydd.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i erfyn ar rieni i wybod ble mae eu plant a phwysleisio'r neges bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.
"Cofiwch - mae cynnau tanau'n fwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â thanau bwriadol. Byddwn yn defnyddio hofrennydd yr heddlu i geisio dod o hyd i danau a chwilio am ddrwgweithredwyr.
"Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y math yma o droseddau fe'ch cynghorir i gysylltu gyda Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."