Apêl yn dilyn nifer o danau bwriadol yn Sir y Fflint
Postiwyd
Mae diffoddwyr tân yn Sir y Fflint yn apelio ar drigolion i'w helpu i fynd i'r afael â thanau bwriadol yn dilyn nifer uchel o danau bwriadol yn yr ardal dros y mis diwethaf.
Ers y 1af o Ebrill mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael ei alw i 22 o danau bwriadol n Sir y Fflint. Er mai tanau glaswellt neu sbwriel oedd y mwyafrif o'r rhain cafwyd dau dân difrifol mewn eiddo.
Digwyddodd y cyntaf o'r rhain ym Maes Glas mewn rhes o dai gwag ar y 17eg o Ebrill a digwyddodd y tân diwethaf yng Nghei Connah wedi i sbwriel gae ei roi ar dân y tu allan i eiddo a lledaenu i'r fflat ar y llawr gwaelod. Gyda diolch, doedd neb yn y fflat ar adeg y tân ond fe effeithiodd y tân ar y tenantiaid ar y fflat uwch ben.
MeddaiGwyn Jones, Arweinydd Tîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru dros Wrecsam a Sir y Fflint: "Mae tanau bwriadol yn draul ar ein hadnoddau prin ac y mae'r digwyddiad diweddaraf yn amlygu peryglon cynnau tanau'n fwriadol a'r modd y gall bywydau gael eu rhoi yn y fantol o ganlyniad i ymddygiad eraill.
"Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid byth a hefyd er myn lleihau'r math yma o ddigwyddiadau ond rydym yn dibynnu ar rieni sicrhau bod eu plant yn gwrando ar ein negeseuon ynglŷn â chanlyniadau cynnau tanau'n fwriadol - rydym felly'n erfyn ar y gymuned i'n helpu fel y gallwn sicrhau bod cyn lleied o danau bwriadol â phosib yn cael eu cynnau.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i erfyn ar rieni i wybod ble mae eu plant a phwysleisio'r neges bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.
"Cofiwch - mae cynnau tanau'n fwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â thanau bwriadol. Byddwn yn defnyddio hofrennydd yr heddlu i geisio dod o hyd i danau a chwilio am ddrwgweithredwyr.
"Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y math yma o droseddau fe'ch cynghorir i gysylltu gyda Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."