Digwyddiad Cemegol yn Saltney
Postiwyd
Mae criwiau o Gaer, Glannau Dyfrdwy, Wrecsam a Bwcle, a'r Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o Wrecsam wrthi'n delio gyda digwyddiad cemegol mewn ffatri yn Ystâd Ddiwydiannol River Lane, Saltney ar hyn o bryd.
Derbyniwyd yr alwad am 9.55 o'r gloch y bore yma, Dydd Mercher Ebrill 9fed.
Credir bod dau gynnyrch glanhau wedi cymysgu ac achosi anwedd gwenwynig.
Credir bod 13 o bobl wedi anadlu'r cemegau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ysbyty'r Countess of Chester ac y maent wedi diheintio nifer o gleifion rhag ofn.