Wythnos Ymwybyddiaeth Celcio
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Celcio'r wythnos hon. Dyma yw'r wythnos genedlaethol gyntaf o'i math i gael ei chynnal yn y DU.
Cynhelir yr ymgyrch gan Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân yr wythnos hon (Mai 19 - 25) ac y mae'n canolbwyntio ar y risgiau y mae celcwyr yn eu hwynebu.
Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae pop un ohonom yn tueddu i gadw pethau nad ydym ni eu hangen. Mae gan rai ohonom lawer o bethau a dim digon o le i'w cadw. Ond mae celcio yn fater cymhleth sydd yn mynd y tu hwnt i annibendod neu betruster.
"Gall celcwyr lenwi ystafelloedd cyfan o'r llawr i'r nenfwd, gan adael dim ond ychydig iawn o le iddynt fyw ynddo. Y mae cadw cymaint o eiddo â hyn yn y cartref yn achosi peryglon tân, ac y mae'n ei gwneud hi'n anodd iawn i ddiffoddwyr tân fynd i mewn i'r cartref i daclo'r tân.
"Mae defnyddiau sydd wedi cael eu celcio yn achosi perygl i ddiffoddwyr tân sydd angen mynd i mewn i eiddo i chwilio am bobl sydd ar goll, gall yr eitemau sydd wedi cael eu storio syrthio a rhwystro'r llwybr i mewn ac allan o'r eiddo ac, wrth gwrs, gall gynyddu maint y tân yn sylweddol."
"Rydym felly'n annog unrhyw un sydd yn adnabod celciwr i weithio gyda ni i ddod o hyd i ffyrdd o leihau'r peryglon.
"Mae celcwyr fel arfer yn casglu eitemau megis papurau newydd, cylchgronau, llyfrau a dodrefn meddal - eitemau hylgsog iawn.
"Drwy gynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref, a gosod larymau mwg gallwn weithio gyda chelcwyr i wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag tân.
"Os oes angen cymorth pellach arnynt i leihau'r peryglon a'r effaith y mae celcio yn ei gael ar eu bywydau, gallwn eu hatgyfeirio at un o'n hasiantaethau partner. Rydym ni am sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl rhag tân , beth bynnag fo'r amgylchiadau yn eu cartref."
Os hoffech gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk neu galwch 0800 1691234.