Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Wrecsam
Postiwyd
Cymrodd criw o bobl ifanc o'r ardal leol ran yng Nghwrs Y Ffenics yr wythnos diwethaf
Mae cwrs Y Ffenics wedi ei ddylunio'n arbennig i helpu pobl ifanc ailgyfeirio eu bywydau. Drwy gymryd mantais o'u brwdfrydedd i gwblhau gweithgareddau gwerth chweil a chynhyrchiol y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddod yn rhan o'r gymuned ynghyd â'u cyfoedion.
Cynhaliwyd y cwrs yng ngorsaf dân y Waun.
Meddai Eryl Owen, Cydlynydd Y Ffenics: "Rwyf yn falch o ddweud bod y cwrs wedi bod yn hynod lwyddiannus unwaith yn rhagor.
Nod y cwrs yw ysgogi'r bobl ifanc a'u gwneud i deimlo'n fwy positif amdanynt eu hunain, a fydd, o ganlyniad, yn eu gwneud yn ddinasyddion gwell, a fydd yn eu gwneud yn ddinasyddion gwell .
" Mae'r cwrs yn ddilyniant o gwrs gyntaf y Ffenics ac mae'n rhoi cyfle i'r bobl ifanc feithrin sgiliau arweinyddiaeth.
"Rydym yn mawr obeithio bod y bobl ifanc wedi elwa o fynychu cwrs y Ffenics, ac y byddant yn parhau i elwa yn y dyfodol."