Tân mewn cwt ieir yn Marford, Wrecsam
Postiwyd
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i daclo tân mewn cwt ieir ym Marford am 19.34 o'r gloch neithiwr, Nos Fercher 28 Mai.
Roedd tri chriw o Wrecsam, a chriw o Johnstown, y Peiriant Cyrraedd yn Uchel o Wrecsam a'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl yn bresennol a buont yn diffodd y tân gydag offer anadlu, pibellau tro a phrif bibell ddŵr.
Fe achosodd y tân ddirfod 100% i'r cwt ac yn anffodus bu farw 24, 000 o gywion bach oedd yn cael eu cadw yno.
Fe ddioddefodd un dyn losgiadau i'w freichiau a chafodd ei gludo'r ysbyty mewn ambiwlans am driniaeth.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.