Streic ddiweddaraf y diffoddwyr tân yn dod i ben
Postiwyd
Daeth y streic pum awr gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 3pm y prynhawn yma (Dydd Su 4 Mai).
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith ei fod wedi llwyddo i reoli ei adnoddau yn effeithiol yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.
"Er bod lleihad yn yr adnoddau a oedd ar gael i ni, gweithiodd y trefniadau a roesom ar waith yn effeithiol a rydym wedi dychwelyd i wasanaeth arferol erbyn hyn.
"Rwyf yn ddiolchgar i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein cyngor diogelwch - fe dderbyniodd ein ystafell reoli lai o alwadau na'r arfer ar ddydd Sul yn ystod gŵyl banc.
"Er bod y streic drosodd, nid yw eto'n glir a fydd diffoddwyr tân yn gweithredu'n ddiwydiannol eto a hoffwn atgoffa pobl e hi'n bwysig iawn iddynt gadw diogelwch tân a ffyrdd mewn cof bob amser."
Mae cyngor diogelwch ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk, @NorthWalesFire and www.facebook.com/Northwalesfireservice .