Streic ddiweddaraf y diffoddwyr tân yn dod i ben a’r ‘gwasanaeth arferol yn cael ei adfer’
Postiwyd
Daeth y streic saith awr gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 5pm heddiw (Dydd Sadwrn 21ain Mehefin).
Dyma oedd yr achos diweddaraf o weithredu diwydiannol gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) mewn protest yn erbyn cynlluniau pensiwn y Llywodraeth.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith bod y trefniadau a roddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar waith i gynnal y gwasanaeth wedi gweithio'n dda.
"Unwaith eto fe lwyddom i reoli'r adnoddau a oedd ar gael i ni yn dda - fe weithiodd ein trefniadau parhad busnes yn dda a llwyddon i ddychwelyd i wasanaeth arferol wedi'r streic.
"Nid dderbyniom fwy o alwadau na'r arfer a ni chawsom ein galw i fwy o ddigwyddiadau na'r hyn yr ydym yn arfer ei ddisgwyl ar benwythnosau. Rwyf yn falch ein bod wedi llwyddo i gynnal y gwasanaeth ar draws y rhanbarth - unwaith eto hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch.
"Er bod y streic drosodd, hoffwn eich atgoffa ei bod hi bob amser yn bwysig cadw diogelwch tân a ffyrdd mewn cof."
Mae cyngor diogelwch ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk, @NorthWalesFire and www.facebook.com/Northwalesfireservice .