Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Plant

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi wythnos Diogelwch Plant  (23 - 29 Mehefin 2014), ymgyrch blynyddol gan yr Ymddiriedolaeth Atal damweiniau Ymhlith Plant i godi ymwybyddiaeth o'r perygl o ddamweiniau ymhlith pant a sut y gellir eu hatal.  

 

Meddai Brian Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn cefnogi Wythnos Diogelwch Plant mewn ymgais i annog rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr i feddwl am gamau syml y gallant eu cymryd i ddiogelu plant rhag damweiniau  a all achosi anafiadau difrifol."

 

 

Negeseuon allweddol gan Brian i gadw plant yn ddiogel:

 

Dim ond camau bach ydy'r rhain, ond drwy gymryd y camau hyn gall teuluoedd helpu i ddiogelu eu plant yn well:  

  • Gosodwch larwm mwg - Drwy osod larwm mwg a gofyn  i'ch plant eich helpu i'w brofi gallwch gynyddu eu hymwybyddiaeth o ddiogelwch tân - ac yn bwysicach fyth - rhoi amser i chi ddianc o dân damweiniol yn y cartref.  Dylech osod un ar bob llawr yn eich cartref a'i brofi'n wythnosol. Os digwydd i'ch larwm seinio pan fyddwch yn coginio, peidiwch â thynnu'r batri.  Symudwch y larwm neu prynwch larwm sydd fan fotwm i'w dawelu.
  • Peidiwch â gadael i'ch plant chwarae gyda thân - cadwch ganhwyllau, danwyr a matsis ymhell o gyrraedd plant, a pheidiwch byth â gadael canhwyllau'n llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt.
  • Byddwch yn ddiogel yn y gegin - Gwnewch yn siŵr nad lle i chwarae ydy'r gegin - peidiwch â gadael plant ifanc yn y gegin ar eu pen eu hunain a pheidiwch â gadael iddynt chwarae ger y popty neu'r hob.
  • Diogelwch socedi - Dysgwch blant i beidio â rhoi dim byd , yn cynnwys bysedd, mewn socedi.
  • Enwebwch eich plentyn i fod yn 'Bencampwr Dianc' - Chwaraewch rôl yn rheolaidd gan ddefnyddio llwybrau dianc a gofynnwch i'ch plant fod yn gyfrifol am gadw llwybrau dianc yn glir.
  • Byddwch yn 'gall gydag agoriadau' - ceisiwch annog eich plant i wneud yn siŵr bod agoriadau yn y llefydd cywir. Dylid cadw agoriadau ffenestri a drysau mewn man hwylus fel y gallwch fynd allan yn gyflym mewn achos o dân.
  • Trafodwch sut i alw 999 - Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod pa rif y dylent ei alw mewn argyfwng.  Dylent hefyd wybod beth yw eu cyfeiriad. Cadwch y rhif hwn  a'ch cyfeiriad wrth y ffôn; eglurwch bwysigrwydd galw 99 mewn argyfwng yn unig.
  • Os bydd tân 'Ewch allan, Arhoswch allan a Galwch 999!' - Peidiwch ag aros er mwyn mynd â phethau gwerthfawr gyda chi, peidiwch ag ymchwilio i leoliad y tân neu geisio ei ddiffodd eich hun.  Defnyddiwch ffôn symudol , ffôn eich cymdogion neu giosg ffôn i alw 999. Os oes rhywun angen ei achub arhoswch i'r diffoddwyr tân yn cyrraedd. Mae ganddynt offer arbenigol ac maent wedi cael eu hyfforddi i wneud hyn.  Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn.
  • Croeswch y ffordd yn ddiogel - dysgwch eich plant sut i groesi'r ffordd.
  • Teithiwch yn ddiogel yn y car - gwisgwch wregys diogelwch a gwnewch yn siŵr bod eich plant yn eu seddi car bob amser.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân am ddim i bawb sydd yn byw yn y Gogledd i gadw'r teulu cyfan yn ddiogel.  Yn ystod archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg - yn rhad ac am ddim. I gofrestru galwch ein rhif rhadffôn 0800 169 1234 neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk.

 

 

Gemau a gweithgareddau i blant

Am gemau a gweithgareddau i blant ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk a chliciwch ar y ddolen 'Chwarae gemau diogelwch tân' ar y dde.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen