Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr
Postiwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr (9fed -15fed Mehefin).
Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Prif flaenoriaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn sicrhau bod y bobol hynny sydd fwyaf agored i beryglon yn ein cymunedau yn cael eu hamddiffyn rhag tân yn y cartref.
"Mae cydweithio gyda sefydliadau ac unigolion sydd yn darparu gofal yn ffordd dda o ymgysylltu gyda'r bobl hyn drwy ddefnyddio cysylltiadau sydd eisoes mewn bodolaeth. Mae gan ofalwyr berthynas wych gyda'r bobl hynny sydd dan eu gofal a gallant rannu cynghorion diogelwch tân mewn ffordd sy'n addas i'r unigolyn, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u profiad i sicrhau bod hyn yn effeithiol.
"Y peth symlaf y gall unrhyw ofalwr ei wneud i atal tân yw ychwanegu ambell beth i'w trefn feunyddiol. Gall profi larwm mwg yr unigolyn sydd dan eu gofal bob wythnos eu helpu i ddianc mewn achos o dân, a thrwy gymryd camau syml megis cau drysau ac osgoi gorlwytho socedi gallant leihau'r perygl o dân yn y cartref.
"Ynghyd ag archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim, y mae offer arbenigol hefyd ar gael, yn cynnwys larymau mwg sydd yn crynu ar gyfer y byddar neu'r trwm eu clyw a systemau cysylltu ar gyfer larymau mwg."
Os ydych chi'n ofalwr, dyma gyngor i chi gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
• Gwnewch yn siŵr bod yr unigolyn sydd dan eich gofal yn gwybod beth i'w wneud mewn achos o dân.
• Mae'n syniad da i chi ymarfer cynllun dianc fel eich bod chi a'r unigolyn sydd dan eich gofal y gwybod beth i'w wneud petai'r gwaethaf yn digwydd ddydd neu nos.
• Mae larwm mwg gweithredol yn rhoi amser i bobl fynd allan o dân yn y cartref. Profwch fatri'r larwm fel rhan o'ch arferion wythnosol.
• Mae'r rhan fwyaf o danau yn y cartref yn digwydd gyda'r nos, felly gwnewch yn siŵr bod eich larwm mwg mewn man lle gall yr unigolyn ei glywed yn seinio e.e. yr ystafell wely.
• Os medrwch, caewch ddrysau mewnol gyda'r nos. Fe fydd hyn yn helpu i atal y tân rhag lledaenu.
• Os ydy'r unigolyn sydd dan eich gofal yn defnyddio ocsigen, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei gadw ymhell o olau haul uniongyrchol, mewn man sydd wedi ei awyru'n dda sydd bob amser yn sych ac ymhell o ffynonellau gwres. Sicrhewch nad ydynt yn defnyddio fflamau agored, yn ysmygu neu'n defnyddio cyfarpar trydan megis sychwyr gwallt ar yr un pryd ac y maent yn defnyddio ocsigen.
• Os oes gennych chi neu'r unigolyn sydd dan eich gofal broblemau clyw gallwch gael larymau mwg arbenigol sydd yn defnyddio golau strôb a phadiau crynu.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r swyddfeydd diogelwch sirol fel a ganlyn:
Swyddfa Conwy a Sir Ddinbych - 01492 564 980
Swyddfa Wrecsam a Sir y Fflint - 01978 367870
Swyddfa Gwynedd a Môn - 01286 662 999
Mae archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk