Mrs Hapwood yn bagio gwerth £100 o dalebau yng nghystadleuaeth coginio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru!
PostiwydRoedd Mrs Hapwood wrth ei bodd ei bod wedi ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad ar ôl i'w hen gael ei ddewis ar hap y ein cystadleuaeth coginio yn ddiweddar, sef yr ymgyrch 'Peidiwch â'n gwahodd ni i ginio!'. Fel rhan o'r ymgyrch fe aeth staff i archfarchnadoedd ar hyd a lled sir Wrecsam lle buont yn cwblhau cwisiau gyda siopwyr - roedd amserydd cegin ar gael yn rhad ac am ddim i bawb a gymerodd ran.
Gall trigolion gwblhau'r cwis ar-lein drwy fynd i www.facebook.com/Northwalesfireservice <http://www.facebook.com/Northwalesfireservice> am gyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad a bydd staff hefyd yn ymweld â'r archfarchnadoedd canlynol yn Sir y Fflint ar y dyddiau canlynol.
Byddwn yn ymweld â Sir Ddinbych ac Ynys Môn eto cyn diwedd y flwyddyn - cadwch lygaid am ddyddiadau a lleoliadau!
Ymweliadau i archfarchnadoedd yn Sir y Fflint:
Sainsburys y Fflint - Dydd Gwener 4ydd Gorffennaf
Asda y Fferi Isaf - Dydd Gwener 18fed Gorffennaf
Tesco yr Wyddgrug - Dydd Gwener 25ain Gorffennaf
Sainsburys y Fflint - Dydd Gwener 1af Awst
Asda y Fferi Isaf - Dydd Gwener 8fed Awst