Y Gweinidog yn dysgu mwy am waith Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
PostiwydYmwelodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC, â Gogledd Cymru ddoe (dydd Iau) i ddysgu mwy am y gwaith a wneir gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Y lle cyntaf ar ei hymweliad oedd y Gyd-Ganolfan Gyfathrebu yn Llanelwy.
Mae'r Gyd-Ganolfan Gyfathrebu yn gyfleustra cydweithredol lle mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhannu llawr gweithredol gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'n unigryw yn y DU, ac agorwyd y cyfleusterau ym mis Hydref 2008. Y prif
amcanion oedd achub bywydau a lleihau anafiadau difrifol. Mae'n cynrychioli
agwedd arloesol tuag at waith y cyd-wasanaethau argyfwng, sy'n rhoi Gogledd
Cymru ar y blaen o ran gweithrediadau 999. Yn ystod yr ymweliad, roedd aelodau staff yn y Gyd-Ganolfan Gyfathrebu yn medru dangos y mesurau dilyniant busnes a gyflwynwyd yn ystod gweithredu diwydiannol.
Fel rhan o'r ymweliad, roedd y Gweinidog hefyd yn medru ymweld â Gorsaf Dân
Prestatyn i weld pobl ifanc yn cymryd rhan yn y rhaglen newydd aroesol 'Chwyldro'.
Mae 'Chwyldro' yn gwrs dau ddiwrnod gyda'r nod o addysgu pobl ifanc 16-25 oed sydd mewn perygl mwyaf o fod mewn Gwrthdrawiad Traffig Ffordd difrifol. Rhoddodd Lywodraeth Cymru £118, 809 i ariannu'r cwrs yn ystod 2014 a 2015.
Mae'r cwrs rhyngweithiol yn delio â chanlyniadau erchyll gwrthdrawiadau traffig
ffordd marwol neu ddifrifol ar y gyrwyr, y teithwyr sydd gyda hwy a theulu a
ffrindiau ynghyd â'r effeithiau seicolegol, cosbol ac ariannol sy'n deillio o
fod mewn gwrthdrawiad traffig ffordd.
Mae pob digwyddiad yn cynnwys cysylltiad gydag aelod o deulu rhywun sydd wedi e lladd mewn gwrthdrawiad ar y ffordd ynghyd â golygfa gwrthdrawiad ffordd realistig a mesurau a gymerir i gael y person allan o'r cerbyd. Mae'r sawl sy'n mynychu yn cael prosiect i'w gwblhau fel tîm dros ddau ddiwrnod y cwrs.
Mae nifer o asiantaethau wedi cyfrannu tuag at y cwrs ac mae'n seiliedig ar bum prif achos gwrthdrawiadau ffordd yng Nghymru, sef y '5 Angheuol' - goryrru, alcohol a chyffuriau, ffonau symudol, gwregysau diogelwch a gyrru peryglus ac anghymdeithasol.
Meddai'r Prif Swyddog Tân Simon Smith: "Mae'r ymweliad diweddaraf hwn gan y Gweinidog wedi rhoi cyfle i ni ddangos blaengareddau ac arferion gwaith sy'n unigryw i Ogledd Cymru.
"Mae'r Gyd-Ganolfan Gyfathrebu yn cynrychioli agwedd arloesol tuag at waith y
gwasanaethau argyfwng. Mae cyfathrebu yn allweddol i gymryd penderfyniadau wrth ymateb i unrhyw ddigwyddiad ac mae'n gwella o gael dealltwriaeth dda o sut mae pob gwasanaeth yn gweithio.
"Mae'r cwrs 'Chwyldro' yn ffordd ragweithiol ac arloesol o ddelio â'r nifer fawr o
drychinebau rydym yn eu gweld gyda gyrwyr ifanc bob blwyddyn. Mae gwrthdrawiadau ar y ffordd yn un o'r achosion mwyaf o farwolaeth ymhlith pobl ifanc, ac felly mae ystyried dulliau newydd o hybu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffordd yn hanfodol. Rydym wrth ein boddau yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru ar y cwrs, ac yn falch iawn, o ystyried y gefnogaeth a roddwyd gan y Gweinidog, ei bod wedi medru gweld effaith y cwrs.
"Y pwyslais yw amddiffyn ein cymunedau ac roedd yr ymweliad hwn yn gyfle gwych i arddangos peth o'r gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau bod Gogledd Cymru mor ddiogel ag y bo modd."
Meddai'r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley
Griffiths AC:"Rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle i weld y Gyd-Ganolfan
Gyfathrebu yn gweithio a sut mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru.
"Gall cydweithredu ddarparu'r ymateb argyfwng gorau i bobl a
chymunedau ledled Gogledd Cymru.
"Hefyd, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r prosiect
Chwyldro, ac roedd yn dda dysgu mwy am ganlyniadau'r prosiect.
"Rydym yn ymroddedig i wella diogelwch ar y ffordd a lleihau'r
nifer o bobl sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.
"Addys yw'r ffordd ymlaen er mwyn rhwystro anafiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd."