Tân mewn hen ysbyty yn Ninbych
PostiwydMae diffoddwyr tân wrthi'n diffodd tân mewn adeilad gwag ar safle'r hen ysbyty ar Ffordd Prion, Dinbych.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i'r digwyddiad am 08:40 o'r gloch y bore yma (Dydd Mawrth 8fed Gorffennaf) ac fe anfonwyd dau griw o'r Rhyl, a chriw o Ruthun, yr Wyddgrug a Dinbych ynghyd â'r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o'r Rhyl i'r digwyddiad.