Dyn yn marw ar ôl tân mewn tŷ allan yn Llanaelhaearn
PostiwydMae dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ allan mewn gardd yn Llanaelhaearn, Gwynedd.
Galwyd y gwasanaethau argyfwng i eiddo ym Mryn Ffynnon brynhawn heddiw (Dydd Iau 31ain Gorffennaf).
Anfonwyd criwiau o Gaernarfon a Phwllheli am 14.54 o'r gloch i ddelio â thân yn y tŷ allan a oedd yn ymwneud â silindr nwy.
Roedd y gŵr a fu farw yno yn ei 70au.
Mae ymchwiliad ar y cyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru nawr ar y gweill.