Tân mewn eiddo yn Abergele
Postiwyd
Mae diffoddwyr tan wrthi'n tampio tŷ ar Ffordd y Morfa, Abergele yn dilyn tân.
Fe dderbyniwyd yr alwad am 11.02 o'r gloch ac fe anfonwyd dau griw o'r Rhyl, criwiau o Fae Colwyn a Phrestatyn, yr Uned Achub Technegol o Wrecsam a'r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o'r Rhyl yn bresennol.
Fe ddefnyddiwyd pibellau tro ac offer anadlu i ddiffodd y tân, a oedd wedi lledaenu i'r gwagle rhwng y nenfwd a'r to. Roedd y tân dan reolaeth erbyn 13.13 o'r gloch.
Roedd yn rhaid gofyn i bobl a oedd yn byw mewn tai cyfagos i adael eu cartrefi.
Cafodd pump o bobl eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans am driniaeth ragofalol.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.