Achub dyn a dynes oddi ar do yn dilyn tân mewn eiddo yng Ngwersyllt
Postiwyd
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i dân mewn eiddo yng Ngwersyllt ger Wrecsam am 07.33 o'r gloch y bore yma (Dydd Sadwrn 30ain Awst, 2014).
Fe anfonwyd tri pheiriant tân o Wrecsam i'r tŷ sengl yn Penrhyn Drive.
Ar ôl cyrraedd daeth diffoddwyr tân wyneb yn wyneb â thân ffyrnig ar y llawr gwaelod. Fe ddefnyddiodd y criwiau bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân.
Llwyddodd dyn yn ei 50au a dynes yn ei 40au i ddringo drwy ffenestr ar ben to gwastad, a chawsant gymorth i ddod lawr oddi ar y to yn ddiogel gan ddiffoddwyr tân. Cafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans am driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.
Credir bod y tân wedi ei gynnau gan ddeunyddiau ysmygu a oedd heb eu gwaredu'n iawn.
Meddai Andy Robb o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn amlygu peryglon peidio â diffodd sigaréts mewn blychau llwch addas.
"Mae'n hanfodol bod deunyddiau ysmygu yn cael eu diffodd yn ddiogel, yn enwedig cyn i chi fynd i'r gwely. Y ffordd ora i leihau'r perygl yw peidio ag ysmygu yn y tŷ i gwbl. Mae nifer o danau sy'n ymwneud ag ysmygu yn digwydd gyda'r nos wedi i bobl bendwmpian wrth ysmygu neu ysmygu yn y gwely a hroi dodrefn neu ddefnydd ar dân.
"Mae'n bryder hefyd bod tystiolaeth yn dangos bod ysmygwyr yn llai tebygol o osod larymau mwg gweithredol yn eu cartref a allai eu rhybuddio am dân a rhoi cyfle iddynt ddianc yn ddiogel.
"Os oes gennych chi berthnasau hŷn neu ffrindiau sydd yn ysmygu, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r peryglon - drwy ddilyn y camau isod gallant leihau'r perygl o dân yn y cartref o ganlyniad i ysmygu:
- Byddwch yn hynod ofalus os ydych chi wedi blino, cymryd cyffuriau o unrhyw fath neu wedi bod yn yfed alcohol. Mae'n hawdd iawn pendwmpian gyda sigarét yn eich llaw.
- Peidiwch ag ysmygu yn y gwely - os oes raid i chi orffwys peidiwch â thanio. Gallech bendwmpian a rhoi'ch gwely ar dân.
- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigarau neu bibau yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt - gallant syrthio wrth iddynt losgi.
- Prynwch danwyr a matsis sydd yn ddiogel rhag plant - pob blwyddyn mae plant yn marw o ganlyniad i gynnau tanau gyda matsis neu danwyr. Cadwch hwy ymhell o gyrraedd plant.
- Defnyddiwch flwch llwch trwm a phwrpasol na all gael ei droi drosodd yn hawdd iawn a gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei wneud o ddefnydd anhylosg. Gwnewch yn siŵr nad ydi'r sigarét yn dal i losgi ar ôl i chi orffen - diffoddwch hi, yn llwyr.
- Gwagiwch eich lludw i flwch llwch, nid bin sbwriel - a pheidiwch â gadael i'r lludw neu fonion sigaréts gasglu yn y blwch llwch.
- Gosodwch larwm mwg gweithredol - dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i ddianc ar ôl i dân gynnau. Bydd larwm mwg gweithredol yn rhoi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Gallwch brynu larwm mwg sylfaenol am bris paced o sigaréts. Neu yn well fyth prynwch larwm mwg gyda batri hir oes neu larwm mwg trydan.
"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. I gofrestru galwch ein llinell ffon 24 awr 0800 169 1234, neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk"