Y gwaith o ailfodelu Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy yn mynd rhagddo
Postiwyd
Mae'r gwaith o ailfodelu'r Orsaf Dân yn mynd rhagddo ac y mae disgwyl y bydd wedi ei gwblhau yn gynnar yn yr Hydref yn 2015.
Mae'r contract wedi ei drosglwyddo i MPH Construction ac y mae'r gwaith ar y safle yn parhau.
Meddai Dawn Docx, Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Er bod Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy yn edrych fel safle adeiladu ar hyn o bryd, dros y misoedd nesaf fe fydd yn cael ei thrawsnewid i orsaf weithredol fodern a fydd gan gyfleusterau hyfforddi newydd i'r diffoddwyr tân, ystafelloedd cyfarfod i grwpiau cymunedol a phartneriaid, a chyfleusterau gwell i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
"Fe fydd yr orsaf dân yn parhau i gael ei defnyddio drwy gydol y gwaith ailwampio ac mae gennym drefniadau ar waith i sicrhau bod modd i beiriannau tân adael y safle mewn argyfwng bob amser."
Cafwyd oedi yn y gwaith adeiladau yn hwyr y llynedd wrth i ni benodi MPH Construction yn lle'r contractwyr blaenorol.
"Fe lwyddom i sicrhau bod cyn lleied o oedi â phosib ar y prosiect, ac y mae disgwyl i'r staff ddychwelyd i'r orsaf ar ei newydd wedd yn yr Hydref," meddai'r Dirprwy Brif Swyddog Tân.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r staff a'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni fwrw 'mlaen gyda'r prosiect cyffrous hwn.
"Mae gennym berthynas ragorol gyda'r rheolwr safle ac rydym mewn cysylltiad gydag ef y ddyddiol i weld pa waith sydd wedi ei drefn ar gyfer y diwrnod dan sylw fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i gwrdd â'n hanghenion. Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fydd MPH yn gwneud newidiadau adeileddol a byddant yn gosod to newydd ar yr adeilad er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn dal dwr.
"Mae gennym lawer iawn o waith o'm blaenau, ond rwyf yn ffyddiog y bydd y gwaith ailfodelu yn mynd rhagddo yn ôl y trefniadau, ac y bydd y datblygiadau ar y safle yn digwydd yn gyflym ac y mae ymrwymiad pawb i'r prosiect er lles y gymuned a'r staff yn amlwg."