Canfod corff ar ôl tân yng Nghilcain
PostiwydDerbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru alwad yn adrodd am dân mewn sied yng Nghilcain am 16.07 o’r gloch heddiw, dydd Mawrth 20fed Hydref.
Mynychodd un criw o Fwcle a delio â’r tân. Yn drist canfuwyd corff.
Mae archwiliad ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nawr ar y gweill.
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael ar hyn o bryd.