Ffenics yn tanio dychymyg ieuenctid Wrecsam
PostiwydCymerodd bobl ifanc lleol ran yng nghwrs arloesol Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r prosiect Ffenics yn gwrs wedi ei gynllunio i gynorthwyo gydag ailgyfeirio egni pobl ifanc tuag at weithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil a fydd yn cynorthwyo i integreiddio’r unigolion gyda’u cyfoedion a’u cymunedau.
Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Dân y Waun.
Meddai Pam Roberts, Cydgysylltydd Ffenics: “Rwy’n falch o ddweud bod hwn wedi bod yn llwyddiant mawr arall i’r prosiect cyffrous hwn.
“Nod y cwrs yw cynorthwyo’r bobl ifanc i gymell eu hunain a theimlo'n gadarnhaol ynglŷn â nhw eu hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well dinasyddion.
"Rydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc yn teimlo eu bod wedi cael rywbeth cadarnhaol o brosiect Ffenics, a theimlo y bydd o fudd iddyn’ nhw yn y dyfodol.”