Yr ymgyrch Peidiwch â’n gwahodd i Ginio! yn dod i Sir y Fflint
PostiwydMae ymgyrch Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i leihau tanau yn y gegin yn dod i Sir y Fflint yr wythnos nesaf.
Bydd staff allan yn hyrwyddo’r ymgyrch ‘Peidiwch â’n Gwahodd i Ginio – Meddwl yn Ddiogel, Coginio’n Ddiogel!’ yn Iceland, Glannau Dyfrdwy ar ddydd Gwener 4ydd o Ragfyr rhwng 10am a 3pm, gyda mwy o ddyddiadau i ddod.
Mae coginio yn brif achos tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru – mae’r ymgyrch hon yn pwysleisio peryglon - nod yr ymgyrch yw amlygu peryglon gadael bwyd yn coginio a pheidio â glanhau padelli grilio, ac mae'r ymgyrch yn barhad o ymgyrch lwyddiannus arall a gynhaliwyd ledled Gogledd Cymru eleni, yn fwyaf diweddar yn Sir y Fflint.
Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi'ch sosban sglodion, llosgi tost, anghofio diffodd y popty - gall pob un o'r rhain fod yn drychinebus yn y gegin a gallant achosi anafiadau difrifol neu, yn fwy difrifol byth, ladd rhywun.
Yn Sir y Fflint, rhwng 1af Ebrill 2014 a’r 31ain Mawrth 2015, roedd mwy na 60% o’r holl danau mewn aelwydydd wedi cychwyn yn y gegin.
Dyma pam y bydd diffoddwyr tân allan dros y ddau fis nesaf, yn siarad â siopwyr ledled Sir y Fflint am sut i aros yn ddiogel yn y gegin, gan roddi brwsys golchi llestri am ddim i annog pobl i feddwl yn ddiogel wrth goginio a chofio sicrhau eich bod yn glanhau eich popty a’r gril yn rheolaidd. Bydd pobl yn medru profi eu gwybodaeth am ddiogelwch trwy gymryd ein cwis coginio’n ddiogel gyda chyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad.
Bydd cwis coginio arlein hefyd i helpu’r sawl na fedr fynd i’r archfarchnad i ddysgu am ddiogelwch yn y gegin a chael cyfle i ennill ein cystadleuaeth.
Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud popeth a fedrwn i bwysleisio bod coginio yn achosi nifer fawr o danau mewn tai a newid ymddygiad i rwystro’r tanau rhag digwydd, ond tra medrwn ni gynghori ac addysgu, rhaid i’r unigolyn fod eisiau newid y pethau maent yn eu gwneud er mwyn gwneud eu hunain yn ddiogelach.
"Dro ar ôl tro rydym yn mynychu tanau mewn tai sydd wedi dechrau yn y gegin – mae mor hawdd anghofio am y coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, os oes rhywbeth yn mynd â’ch sylw, rydych wedi bod yn yfed neu ar feddyginiaeth, a gall y canlyniadau fod yn drychinebus. Nid ydym eisiau cael cinio gyda chi a delio â’r tân yn eich cegin!
"Felly, cymerwch sylw o’n hymgyrch, dewch i’n gweld mewn archfarchnad – byddwn yn rhoi brws golchi llestri i helpu cadw eich offer coginio yn lân a’r cyfle i ennill gwerth £100 mewn talebau archnfarchnad. Os na fedrwch ddod draw, cymerwch ran yn ein cystadleuaeth diogelwch tân ar ein tudalen Facebook yn www.facebook/northwalesfire.
"Peidiwch ag anghofio – mae larymau mwg yn achub bywydau. I gael archwiliad diogelwch cartref am ddim, ffoniwch ein linell ffôn 24 awr am ddim 0800 169 1234.
Dyma awgrymiadau Paul er mwyn bod yn ddiogel yn y gegin:
- Os ydych yn gadael yr ystafell, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
- Peidiwch â defnyddio matsys neu daniwr i danio cwcer nwy. Mae dyfeisiau sbarcio yn ddiogelach
- Gwnewch yn siŵr bod unrhyw goes sosban wedi ei throi i ffwrdd o ymyl y cwcer
- Cadwch y popty, yr hob a’r gril yn lân – os oes saim wedi hel gall fynd ar dân
- Peidiwch â hongian unrhyw beth uwchben y cwcer
- Cymerwch ofal os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gall fynd ar dân
- Pan fyddwch wedi gorffen coginio, gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
- Diffoddwch offer trydanol pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
- Peidiwch â defnyddio sosban tsips – defnyddiwch beiriant ffrïo dan reolaeth thermostat neu tsips popty
- Gwnewch yn siŵr bod gennych larymau mwg – maent yn rhad ac am ddim a gallai achub eich bywyd
Bydd yr ymgyrch ‘Peidiwch â’n Gwahodd i Ginio!’ yn ymddangos ledled Sir y Fflint yn ystod Rhagfyr a Ionawr yn yr archfarchnadoedd canlynol:
Asda, Queensferry – 11eg Rhagfyr, 10am – 3pm
Morrisons, y Fflint – 17eg Rhagfyr, 10am – 3pm
Iceland, Glannau Dyfrdwy – 8fed Ionawr, 10 – 3pm
Asda Queensferry – 15fed Ionawr, 10am – 3pm
Sainsbury’s, y Fflint – 22ain Ionawr, 10am – 3pm
I gael gwybod mwy am yr ymgyrch, chwiliwch am #wedontwanttocomedinewithyou ar Twitter neu ewch i www.facebook/northwalesfire