Rhybudd erosolau ar ôl ffrwydriad yn Wrecsam
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa trigolion o bwysigrwydd cadw erosolau a blychau nwy cywasgedig mewn lle oer i ffwrdd oddi wrth unrhyw wres uniongyrchol neu olau’r haul, ar ôl ffrwydriad bychan blwch nwy cywasgedig mewn dyfais puro’r aer mewn tŷ yn Wrecsam.
Galwyd dau griw o Wrecsam i dŷ ar Palmer Street, Smithfield, Wrecsam am 18.53 o’r gloch ddoe (dydd Sul Rhafyr 14) pan roedd purwr aer gyda blwch nwy cywasgedig ynddo wedi ei adael ar losgwr coed ac wedi gorboethi.
Achosodd y ffrwydriad ddifrod i ffenestr a nenfwd yr eiddo.
Meddai Jane Honey, o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y trigolion yn ffodus iawn nad oeddynt yn yr ystafell adeg y ffrwydriad.
“Mae’r dyfeisiau puro aer hyn yn cynnwys blychau nwy cywasgedig, a dylid eu trin yn ofalus. Fel gyda erosolau arferol – darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau diogelwch ar yr eitem neu’r erosol, a’u storio mewn lle oer, diogel, wedi ei awyru’n dda. Gwaredwch yn ddiogel unrhyw erosol sy’n dangos unrhyw arwydd o ddifrod.
“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch cartref yn rhad ac am ddim, lle bydd aelod o’r Gwasanaeth yn ymweld â’ch cartref, yn rhoi cyngor ar ddiogelwch tân i chi, eich helpu i lunio cynllun dianc rhag tân a gosod larymau newydd – i gyd yn rhad ac am ddim. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i holl drigolion Gogledd Cymru.
“I gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân am ddim, ffoniwch y llinell radffon 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk.”