Cael hyd i gorff ar ôl tân mewn tŷ ger Caernarfon
PostiwydMae diffoddwyr tân yn bresennol ar hyn o bryd mewn tân mewn tŷ ger Caernarfon lle cafwyd hyd i gorff dyn.
Galwyd dau griw tân o Gaernarfon i adroddiadau o dân mewn eiddo ar Penrallt, Saron am 16.49 o’r gloch heddiw (dydd Mawrth 15fed Rhagfyr).
Ar ôl cyrraedd, roedd diffoddwyr tân yn wynebu eiddo llawn mwg, ac fe gafwyd hyd i berson wedi marw, y credir iddo fod yn ddyn yn ei 80au. Defnyddiodd y criwiau bibell ddŵr a dwy set o offer anadlu i ddelio â’r tân.
Mae archwiliad ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i achos y tân nawr ar y gweill.