Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tanau coginio yn ysgogi rhybudd am ddiogelwch

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Diogelwch Tân yn rhybuddio am beryglon gadael bwyd yn coginio heb gadw llygad arno, ac yn apelio i drigolion i wneud yn siŵr bod aelodau teulu a chymdogion oedrannus yn ddiogel dros yr ŵyl, ar ôl i ddiffoddwyr tân ddelio â phedwar o danau cegin ers dydd Sadwrn.

 

Galwyd criwiau i dân cegin mewn fflat ar Gwindy Street, Rhuddlan am 04.45 o’r gloch ar fore Sadwrn (19eg Rhagfyr). Achoswyd y tân gan fwyd yn coginio, wedi ei adael, ac fe gafodd un person archwiliad rhagofalus oherwydd anadlu mwg.

 

Am 16.15 o’r gloch ar y dydd Sul, galwyd criwiau allan ar ôl tân sosban tsips yn Edward Henry Street, y Rhyl. Dihangodd dau o oedolion a thri o blant o’r eiddo a chael archwiliadau rhagofalus gan barafeddygon yn y lleoliad.

 

Ychydig o oriau yn ddiweddarach, mynychodd diffoddwyr tân ddigwyddiad yng Nglan Seiont, Caernarfon lle’r oedd sosban tsips arall wedi ei gadael. Cafodd un ferch archwiliad rhagofalus yn y lleoliad.

 

Galwyd criwiau allan eto y bore hwn (dydd Llun) am 09.51 o’r gloch yn y Stryd Fawr, Dolgellau, i dân mewn cegin a achoswyd gan liain a adawyd ar beiriant tostio. Cafodd un person ei drin am losgiadau arwynebol.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: “Dro ar ôl tro, rydym yn mynychu tanau mewn tai sydd wedi dechrau yn y gegin – mae mor hawdd anghofio bod pethau’n coginio, yn enwedig os ydych chi wedi blino, os yw rhywbeth yn mynd â’ch sylw, neu os ydych wedi bod yn yfed. Ond gall y canlyniadau fod yn drychinebus.

 

"Mae ein neges yn glir – peidiwch  byth â throi eich cefn ar eich coginio, hyd yn oed am funud. Mae gadael unrhyw beth, ond yn enwedig sosban tsips, am unrhyw gyfnod yn medru arwain at ganlyniadau erchyll. Gall yr olew yn y sosban orboethi yn hawdd a thanio – gall y peth lleiaf arwain at dân mewn mater o eiliadau. Mae tsips popty yn ddiogelach, ynghyd â bod yn iachach, ond os ydych yn dewis ffrïo mewn olew, peidiwch â gadael y sosban am eiliad. Os bydd yn tanio, peidiwch â thaflu dŵr arni. Ewch allan o’r tŷ, arhoswch allan a ffoniwch 999. Peidiwch byth â cheisio delio â’r tân eich hun. Yn well fyth – taflwch eich hen sosban tsips a defnyddiwch offer ffrïo a reolir gan thermostat.

 

“Hefyd, sicrewch bod peiriannau tostio yn lân ac yn ddigon pell oddi wrth unrhyw beth a all fynd ar dân. Peidiwch â choginio ar ôl bod yn yfed, a gwnewch yn siŵr bod gennych chi larwm mwg.

 

"Mae larymau mwg yn achub bywydau. Rwy’n gofyn i bawb ystyried aelodau o’r teulu neu gymdogion sy’n oedrannus neu’n agored i niwed, a sicrhau eu bod yn ddiogel hefyd. Mae’r rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg yn medru rhoi munudau hanfodol i helpu pobl i ddianc yn ddi-anaf. Rydym wedi cael nifer o ddigwyddiadau yn ddiweddar gyda phobl hŷn yn coginio neu’n ceisio cadw’n gynnes, ac mae’n hanfodol ein bod ni fel cymuned yn gofalu am y rhai sy’n fwy agored i niwed.

 

“I gael archwiliad diogelwch cartref yn rhad ac am ddim, ffoniwch ein rhif rhadffon 24 awr ar 0800 169 1234, ebostio cfs@nwales-fireservice.org.uk  ewch i’n gwefan yn www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch neges testun i 88365, gan sicrhau bod eich neges yn dechrau gyda’r gair HFSC." 

 

 

Awgrymiadau ar gyfer diogelwch yn y gegin:

  • Os ydych yn gadael yr ystafell, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnddio matsys neu daniwr i oleuo cwceri nwy. Mae dyfeisiau sbarcio yn ddiogelwch
  • Sicrhewch bod unrhyw handlenni wedi eu troi i ffwrdd o ymyl y cwcer
  • Cadwch y popty, yr hob a’r gril yn lân – gall saim fynd ar dân yn hawdd os yw’n hel
  • Peidiwch â hongian unrhyw beth i sychu uwchben y cwcer
  • Cymerwch ofal os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gall fynd ar dân yn hawdd
  • Pan fyddwch wedi gorffen coginio, sicrhewch bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch offer trydanol pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
  • Peidiwch â defnyddio sosban tsips – defnyddiwch beiriant ffrïo â thermostat
  • Peidiwch byth â choginio ar ôl yfed – prynwch bryd parod yn ei le
  • Sicrhewch bod gennych larymau mwg – maent ar gael yn rhad ac am ddim a medrent achub eich bywyd

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen