Apêl i beidio ag yfed a choginio dros y Nadolig, ar ôl tân cegin ym Mangor
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd peidio ag yfed a choginio dros gyfnod y Nadolig a phwysigrwydd bod â larymau mwg sy’n gweithio ar ôl i ŵr ifanc fod yn ffodus i ddianc o dân yn y gegin yn ei gartref ym Mangor.
Galwyd diffoddwyr tân i eiddo ar y Stryd Fawr am 03.22am y bore hwn (24 Rhagfyr). Dechreuodd y tân yn y gegin ar ôl gadael bwyd yn coginio, ac arweiniodd hyn at ddinistrio’r gegin, a difrod i weddill y llawr cyntaf a’r ail. Achubwyd y deiliad o’r eiddo gan ddiffoddwyr tân ac aethpwyd ag ef i’r ysbyty i gael archwiliad rhagofalus.
Roedd larymau mwg yn yr eiddo, ond roedd un wedi ei orchuddio a ddim yn gweithio. Yn ffodus, gweithiodd yr ail synhwyrydd, gan hysbysu’r deiliad bod tân.
Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: “Mae yfed a choginio yn gyfuniad gwael – gall alcohol achosi i bobl beidio â sylwi ar beryglon. Mae’r neges yn arbennig o bwysig yr adeg hon o’r flwyddyn, gan efallai y bydd llawer yn yfed alcohol wrth ddathlu’r ŵyl.
"Peidiwch byth, byth â gadael bwyd yn coginio heb gadw llygad arno – dim ond munud neu ddau mae’n ei gymryd i dân bach ddatblygu yn un difrifol, sy’n bygwth bywydau.
“Mae coginio ar ôl bod yn yfed yn gofyn am helynt. Achosir nifer fawr o danau bob blwyddyn gan bobl yn dod yn ôl o’r dafarn ac yn penderfynu coginio byrbryd iddynt eu hunain cyn mynd i’r gwely. Rwy’n cynghori pobl i aros yn ddiogel. Paratowch bryd bwyd bach cyn mynd allan, neu ewch am fwyd parod ar y ffordd adref.
“Hefyd, peidiwch byth â cheisio delio â’r tân eich hun – ein cyngor ni yw ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch ni.
"Roedd y gŵr hwn yn eithriadol o ffodus i ddianc. Ni ddylech ymyrryd â larymau mwg neu eu gorchuddio - mae larwm mwg sy’n gweithio yn hanfodol i’ch diogelu chi a’ch teulu. Gwnewch yn siŵr bod eich larymau chi yn gweithio trwy wthio’r botwm arnynt, i’ch diogelu chi a’ch teulu. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch cartref am ddim. Bydd aelod o’r Gwasanaeth yn ymweld â’ch cartref, ymgymryd ag asesiad diogelwch, ac os oes angen, yn gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim.
"Mae’r archwiliadau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i holl drigolion Gogledd Cymru. I ofyn am archwiliad, ffoniwch ein llinell rhadffon ar 0800 169 1234, ebostiwch cfs@nwales-fireservice.org.uk , neu ewch i’n gwefan yn www.nwales-fireservice.org.uk Gadewch eich manylion cyswllt, a bydd aelod o’r Gwasanaeth yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i ymweld â’ch cartref."