Diffoddwyr tân o’r Wyddgrug yn codi arian i elusennau lleol
Postiwyd
Fe aeth elusennau lleol draw i Orsaf Dân yr Wyddgrug neithiwr i dderbyn gwerth £2,000 o bunnoedd, sef y swm a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt ym mis Tachwedd.
Fe dderbyniodd Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd, Age Concern, Action for Children a Byddin yr iachawdwriaeth £500 yr un.
Meddai Peter Edwards, Rheolwr Gwylfa Gorsaf Dân yr Wyddgrug: “ Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r arddangosfa’r llynedd - roedd yn waith tîm gwirioneddol gyda phawb yn cyd-dynnu i gynnal noson wych i’r gymuned gyfan.
"Rydym yn falch o gael gweithio gyda thrigolion yng Ngogledd Cymru i’w cadw mor ddiogel â phosib, a gweld yr arian yn cael ei fuddsoddi’n ôl yn y gymuned wedi’r gwaith caled.
"Ein blaenoriaeth yw cadw’n trigolion yn ddiogel - a thrwy fynychu arddangosfeydd lleol fe all pawb fwynhau noson tân gwyllt yn ddiogel. Ar yr adeg yma o’r flwyddyn mae’n bwysig bod pawb yn cadw diogelwch tab yn y cartref mewn cof.
"Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru rydym yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Fel rhan o’r archwiliad byddwn yn dod i’ch cartref i rannu cyngor ar ddiogelwch tân a gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim os oes angen. I gofrestru galwch 0800 169 1234, anfonwch e-bost i cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcy,mru.org.uk."