Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn newid y modd y mae'n ymateb i wasanaethau anstatudol

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyflwyno newidiadau i'r modd y mae'n ymateb i alwadau 999 mewn perthynas â gwasanaethau anstatudol yn ymwneud ag achub anifeiliaid mawr ac achub gyda rhaffau.

Ar 1af Ebrill 2015, ni fydd yr uned ymateb arbenigol yng Ngorsaf Dân Bae Colwyn  yn parhau i gynorthwyo yn ystod achosion yn ymwneud ag achub anifeiliaid mawr neu achub gyda rhaffau.

Ym mis Rhagfyr 2014, fe bleidleisiodd aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru o blaid lleihau'r gwasanaethau hyn er mwyn osgoi toriadau i wasanaethau craidd.

Meddai Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Cynghorydd Meirick Davies: "Yn ddiamheuol dyma gyfnod heriol iawn i wasanaethau cyhoeddus wrth i gyllidebau brinhau - ac mae'n bwysig bod y cyhoedd edrych ar y toriadau hyn gan yr Awdurdod Tân yng nghyd-destun yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu.

"Rydym yn wynebu diffyg yn y gyllideb o hyd at £3.3 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac fe allai hyn beryglu ein gwasanaethau tân ac achub craidd.

"Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, fe benderfynodd yr Awdurdod o blaid cynnal lefel y gwasanaeth presennol yn y gyllideb ar gyfer 2015-16, a hynny trwy gynyddu cyfraniadau'r cynghorau lleol a  thrwy leihau rhai gwasanaethau anstatudol.

"Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i'r aelodau. Fodd bynnag, mae rhai o'r gwasanaethau na fyddwn yn eu darparu o hyn ymlaen eisoes yn cael eu darparu gan ddarparwyr eraill sydd â'r sgiliau i ymgymryd â'r gwaith."

Mae swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydlynu gyda phartneriaid i gyflwyno'r newidiadau hyn ym mis Ebrill ac i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd er mwyn lleihau dryswch a risg.

Meddai'r Prif Swyddog Tân Simon Smith: "Er ei fod yn destun gofid, mae'r penderfyniad yn adlewyrchu'r heriau yr ydym ni fel gwasanaeth cyhoeddus yn eu hwynebu wrth i ni geisio cyflwyno'r achos gorau posibl ar gyfer ein dyfodol ariannol.  Drwy dorri gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu mynychu gan asiantaethau eraill gallwn helpu i gynnal lefel y gwasanaeth presennol a chyflawni ein dyletswyddau i amddiffyn pobl y Gogledd, atal risgiau, ac ymateb yn ôl y galw i danau a gwrthdrawiadau ar y ffordd.

"Mewn sawl modd ni fydd y cyhoedd yn sylwi ar y newid - gan y byddwn yn parhau i ymateb i ddigwyddiadau o'r math yma lle nad yw'n orfodol i ni anfon ymateb arbenigol.  Mae milfeddygon ar gael i ddarparu cyngor ar les yr anifail yn ystod achosion lle mae'n rhaid achub anifeiliaid mawr ac mae swyddogion o'r RSPCA hefyd yn bresennol fel rheol. Yr hyn a fydd yn dod i ben fydd ein hymateb arbenigol sydd fel arfer yn golygu siwrneiau hir acsydd yn draul ar ein hadnoddau am gyfnodau maith, ac sydd yn ein hatal rhag ymateb i danau a gwrthdrawiadau ffyrdd lle mae bywydau yn y fantol."

"Hoffwn gynghori'r cyhoedd y dylent, ar ôl  1af Ebrill, gysylltu gyda'u milfeddyg neu'r RSPCA os ydynt yn poeni am les anifail, ac os bydd arnynt angen cyngor ar achub gyda rhaffau, fe ddylent roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru ynglyn â'r digwyddiad.

"Ond wrth gwrs, atal sydd orau - ac rydym yn eich cynghori i gymryd rhagofalon ychwanegol er mwyn gwneud yn siwr na fydd yn rhaid i chi alw arnom yn y lle cyntaf. Fe allai hyn olygu cymryd camau syml i ddiogelu a chynnal a chadw tir caeedig yn well ac osgoi sefyllfaoedd peryglus."

Am wybodaeth bellach ac atebion i gwestiynau cyffredin cliciwch yma.

Os ydych yn ansicr ynglyn â'r trefniadau newydd neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen