Tân yn Abergele
PostiwydCafodd diffoddwyr tân eu galw i dân mewn eiddo yn Vaenol Avenue, Abergele.
Derbyniwyd yr alwad am 12.16pm heddiw (Dydd Iau 5ed Chwefror).
Roedd criwiau o Abergele, Bae Colwyn a'r Rhyl yn bresennol.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu a phibellau tro i ddiffodd y tân. Llwyddodd pawb i adael yr eiddo.
Daethpwyd â'r tân dan reolaeth erbyn 12.55pm.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.