Dewch i gael golchi eich car a chodi arian i elusen!
PostiwydMae Diffoddwyr Tân Gogledd Cymru yn paratoi i dorchi eu llewys i gymryd rhan yn yr Olchfa Geir Genedlaethol y mis yma, er mwyn codi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.
Mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn ddigwyddiad sefydlog ar galendr y gwasanaeth tân ac achub erbyn hyn gan mai dyma un o brif ddigwyddiadau codi arian yr elusen. Gwahoddir gyrwyr i fynd draw i'w gorsaf dân leol i gael golchi eu ceir am rodd i Elusen y Diffoddwyr Tân, un o'r prif elusennau yn y DU sydd yn darparu gwasanaethau i wella ansawdd bywyd cyn ddiffoddwyr tân a diffoddwyr tân a'u teuluoedd.
Bydd gorsafoedd ar hyd a lled y rhanbarth yn cymryd rhan yn y digwyddiad ar Sadyrnau drwy gydol y mis yma.
Meddai Richard Fairhead, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: "Mae'r arian sydd yn cael ei godi yn ystod digwyddiadau codi arian cenedlaethol yn hwb mawr i'r Elusen.
"Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad hwyliog a phoblogaidd iawn, mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn rhoi cyfle i ddiffoddwyr tân rannu negeseuon diogelwch pwysig gydag aelodau'r cyhoedd yn eu cymunedau lleol.
" Bydd eich rhodd yn helpu miloedd o ddynion, merched a phlant o'r gymuned tân ac achub pan fyddant mewn angen"
Mae golchfeydd ceir yn cael eu cynnal yn y gorsafoedd tân canlynol:
Conwy
- Llandudno - 7.3.15
- Cerrigydrudion - 21.3.15
Sir Ddinbych
- Prestatyn - 21.3.15
- Llanelwy - 21.3.15
Sir y Fflint
- Yr Wyddgrug - 28.3.15
Gwynedd
- Abersoch- 28.3.15
- Pwllheli - 21.3.15
Môn
- Caergybi -14.3.15
- Benllech - 14.3.15
- Llangefni - 4.4.2015
- Amlwch - 25.4.2015
- Rhosneigr - 21.3.15