Tân yn Ninbych
Postiwyd
Mae diffoddwyr tân wrthi'n delio gyda thân mewn eiddo yn Henllan Place, Dinbych.
Cafodd yr alwad ei derbyn am 16.22 o'r gloch y pnawn yma (Dydd Gwener 17eg Ebrill).
Mae criwiau o Ddinbych, Abergele, Rhuthun a'r Rhyl yn bresennol.
Credir bod yr adeilad carreg lle mae'r tân yn sownd mewn eiddo domestig.
Roedd y tân yn llosgi'n ffyrnig pan gyrhaeddodd y diffoddwyr tân ac maent wrthi'n defnyddio offer anadlu a phibellau tro i geisio diffodd y tân.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.