Diweddariad mewn perthynas â'r tanau bwriadol ym Mlaenau Ffestiniog
PostiwydMae tri person ifanc yn parhau i fod ar fechnïaeth yn dilyn cyfweliadau pellach ddoe, dydd Iau 23ain Ebrill, mewn perthynas â thân eithin ar dir ger Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Mercher 22ain Ebrill.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn.
Meddai'r Uwch Arolygydd Guy Blackwell: "Rydym yn ddiolchgar i'r cyhoedd am eu cydweithrediad a gofynnwn iddynt barhau i bod yn wyliadwrus. Os oes gwelwch unrhyw un yn ymddwyn yn amheus rydym yn eich hannog i gysylltu gyda'r Heddlu ar unwaith ar 101."